Rydym yn ceisio recriwtio 7 glanhawr/aig wrth gefn i ymgymryd â chyfrifoldebau glanhau amrywiol, er mwyn sicrhau bod adeiladau amrywiol yn cael eu cadw mewn cyflwr glân a hylan.
Mae'r Gwasanaeth Glanhau yn darparu gwasanaeth hanfodol ledled Sir Ceredigion (De). Pwrpas y rôl yw ymgymryd â thasgau glanhau, gan ddarparu gwasanaeth o safon uchel, a sicrhau amgylchedd diogel a hylan.
Er y byddai profiad a gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch o fantais, darperir hyfforddiant llawn. Mae angen sgiliau cyfathrebu da.
Bydd angen hyblygrwydd ar gyfer pob rôl o ran lleoliad, a'r oriau a weithir, a allai gynnwys boreau cynnar, gyda'r nos.
Bydd y tasgau o ddydd i ddydd yn cynnwys y canlynol:
Rydym yn chwilio am unigolion sy’n llawn cymhelliant ac yn frwdfrydig ynglŷn â natur y gwaith. Bydd ganddo/ganddi agwedd hyblyg a bydd ef/hi yn medru cyflawni gwahanol ddyletswyddau yn unol â rhestr waith amrywiol.
Os na fydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y sgiliau angenrheidiol o ran y Gymraeg, caiff ef/hi gefnogaeth lawn i gyrraedd y safon ofynnol o fewn dwy flynedd.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: propertyservices@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.