Rydym yn edrych i recriwtio Cydlynydd (Dysgu Gydol Oes a Sgiliau) i ymuno â'n tîm Cyflogaeth a Hyfforddiant.
Ynglŷn â'r rôl
Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo’r Rheolwr Tîm Cyflogaeth a Hyfforddiant, y Swyddog Ansawdd Rhanbarthol a phartneriaid wrth baratoi, datblygu, monitro a gwerthuso darpariaeth y prosiect.
Cymryd rhan weithredol yn y gwaith o gynllunio, paratoi, datblygu ac ysgrifennu ceisiadau ariannol.
Cynorthwyo’r prosiectau Cyflogadwyedd yng Ngheredigion. Mae’r gwaith yn cynnwys gwerthuso, monitro a sicrhau gweithdrefnau o ansawdd a hyrwyddo arferion gorau.
Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo’r Swyddog Ansawdd a Pherfformiad rhanbarthol a’r Rheolwr Prosiect Rhanbarthol a’r partneriaid wrth baratoi, darparu, monitro a gwerthuso’r prosiect.
Darparu cymorth i’r Tîm Cymorth Cyflogadwyedd sy’n cymryd rhan weithredol yn y gwaith o gynllunio, paratoi, darparu ac ysgrifennu adrannau o geisiadau cyllido.
Ynglŷn yr ymgeisydd
Mae'n rhaid i ddeiliad y swydd feddu ar sgiliau rheoli amser rhagorol i ymdopi â llwyth achosion amrywiol o flaenoriaethau a therfynau amser sy'n gwrthdaro.
Sgiliau cyfathrebu, arweinyddiaeth a gwneud penderfyniadau rhagorol.
Ymwybyddiaeth o amcanion, polisïau a meini prawf ar gyfer Pob Prosiect cyflogadwyedd a ariennir gan y llywodraeth.
Gwybodaeth gyfredol am fudd-daliadau cyflogaeth ac anabledd a deddfwriaeth.
Rydym yn chwilio am unigolion â lefel o ruglder yn y Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg gan y rhoddir cefnogaeth lwyr yn ystod oriau gwaith i ymgeiswyr llwyddiannus heb y sgiliau gofynnol yn y Gymraeg i gyrraedd y safon a ddymunir ar ôl iddynt gael eu penodi.
Ein cynnig i chi
Rydym wedi ymrwymo ymrymwedig i fuddsoddi yn ein pobl a byddwn nid yn unig yn cynnig cefnogaeth i’ch galluogi i berchenogi meysydd cyfrifoldeb allweddol y swydd hon yn gyflym ac yn hyderus ond hefyd yn cefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu gwneud cynnydd yn eich gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, gweithio hybrid, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cefnogaeth gynhwysfawr i weithwyr o ran iechyd a lles a chynllun cyfraniadau pensiwn hael.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr ar ein gwefan gyrfaoedd.
Manylion Ychwanegol
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n ceisio secondiad. Argymhellir gofyn am ganiatâd rheolwr llinell/cyflogwr cyn gwneud cais i sicrhau y gallwch ddychwelyd i'ch swydd barhaol unwaith y bydd y secondiad wedi dod i ben.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd hon cysylltwch ar ebost alison.newby@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.