Gymhwyso yn dechrau ar radd 9 cyn symud ymlaen i radd 10 ar ôl 2 flynedd yn y swydd. Bydd gweithwyr cymdeithasol profiadol yn dechrau ar radd 10. Gellir cael mynediad i’r ddau ddisgrifiad swydd Gradd 9 cyn symud ymlaen i radd 10 ar ôl 2 flynedd yn y swydd.
Mae’r swydd hon yn gymwys ar gyfer taliad atodol marchnad o £200 y mis. Nodwch y bydd y taliad ychwanegol hwn yn cael ei adolygu ar 31 Mawrth 2026.
Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnir oherwydd adleoli i Geredigion. Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a’r ffordd o fyw ragorol y mae’n ei gynnig, cliciwch yma.
Ydych chi’n Weithiwr Cymdeithasol Cymwysedig sy’n chwilio am gyfle i weithio yng nghefn gwlad hyfryd, heddychlon Gorllewin Cymru ar gyfer awdurdod lleol sy’n edrych i’r dyfodol ac sy’n darparu cefnogaeth dda i’w staff?
Yng Ngheredigion, mae gennym gyfleoedd i Weithwyr Cymdeithasol cymwysedig weithio gyda phlant a theuluoedd. Fel Gweithiwr Cymdeithasol cymwysedig, byddwch yn gweithio gyda phlant sydd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant, Plant sy’n Derbyn Gofal, achosion llys teulu a mabwysiadu. Mae'r tîm hirdymor hwn yn cynnig amrywiaeth o waith ac ymrwymiad i sicrhau y gellir rheoli llwyth achosion i sicrhau ansawdd eich gwaith a'ch perthynas â’r plant.
Mae’r Awdurdod wedi ymrwymo i ddull sy’n seiliedig ar gryfderau gan ddefnyddio Arwyddion Diogelwch ac mae wrthi’n trawsnewid i fodel gydol oes a’r teulu cyfan. Bydd hyn yn cynnig mwy o hyblygrwydd wrth ddatblygu cynlluniau a gwasanaethau i ddiwallu anghenion ac mae hyn wedi arwain at gyfleodd cyffrous ar gyfer cydweithredu gydag adrannau o fewn yr awdurdod yn ogystal â’n hasiantaethau partner.
Bydd cyfleodd hefyd i arbenigo ym maes o’ch dewis.
Rydym yn chwilio am unigolion sydd yn siarad Cymraeg yn weddol rugl. Bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgiliau iaith Gymraeg gofynnol yn cael cefnogaeth i gyrraedd y safon a ddymunir o fewn 2 flynedd o benodiad.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael.
Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i'w gweld yma.
Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein staff a byddwn nid yn unig yn rhoi cefnogaeth i’ch helpu i reoli prif gyfrifoldebau’r rôl hon yn gyflym ac yn hyderus, ond hefyd i gefnogi eich datblygiad parhaus fel y gallwch dyfu a datblygu eich gyrfa gyda ni.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Newydd Gymhwyso)
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Cymhwyso)
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd hon cysylltwch â Youssef Shawish ar Youssef.Shawish@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.