Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ceisio penodi Rheolwr Tîm – Opsiynau Tai a Gwasanaethau Cymorth profiadol ac ysgogol i arwain swyddogaethau allweddol rheng flaen ym maes tai a digartrefedd, gan gefnogi preswylwyr i gael y cymorth cywir ar yr adeg gywir drwy ein Model Gwasanaethau Integredig Drwy Oes a Llesiant.
Mae’r prif gyfrifoldebau’n cynnwys:
Amdanoch chi: Bydd gennych brofiad sylweddol ym maes tai (o leiaf 5 mlynedd) a phrofiad arweinyddiaeth mewn maes gwasanaeth perthnasol, ynghyd â dealltwriaeth gref o ddeddfwriaeth tai, rheoli perfformiad ac ymarfer person-ganolog (gan gynnwys Signs of Safety). Byddwch yn meddu ar (neu’n gweithio tuag at lle nodir) gymwysterau proffesiynol a rheoli perthnasol, gyda sgiliau cyfathrebu a digidol rhagorol, ac yn ymrwymedig i gydraddoldeb, amrywiaeth a darparu gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar y cwsmer. Mae gallu yn y Gymraeg yn hanfodol (neu ymrwymiad i gyrraedd y lefelau gofynnol o fewn dwy flynedd). Mae trwydded yrru lawn yn ofynnol.
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Beth rydym yn ei gynnig yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad:
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Llyr Hughes ar llyr.hughes2@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.