Mae Gwasanaeth Cerdd Ceredigion yn wasanaeth llwyddiannus ac uchel ei barch.
Rydym yn chwilio am unigolyn uchel ei gymhelliant i ymgymryd a rol Tiwtor Telyn, ar sail cyfnod penodo, tan 31 Awst 2027.
Mae Tiwtor Telyn yn darparu hyfforddiant i ddisgyblion yn ysgolion Ceredigion yn wythnosol yn ystod tymor ysgol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm proffesiynol o hyfforddwyr sydd wedi ymrwymo i gyflwyno gwasanaeth rhagorol i ddisgyblion y Sir.
Efallai y bydd disgwyl i’r hyfforddwr gymryd rhan mewn ensembles/cerddorfa/cynyrchiadau ysgol a hyrwyddo manteision dysgu offeryn cerdd a’r mwynhad o chwarae’r offeryn yn unigol ac o fewn grŵp.
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr yma.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Dan Edwards-Phillips (Rheolwr y Gwasanaeth Cerdd) - dan.edwards-phillips@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.