Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Tai – Strategaeth a Monitro profiadol a brwdfrydig i gefnogi’r gwaith o gyflawni, datblygu a monitro gwasanaethau tai yn effeithiol yng Ngheredigion. Mae hwn yn gyfle rhagorol i chwarae rhan allweddol wrth lunio strategaeth dai, cefnogi gwelliant gwasanaeth, a sicrhau canlyniadau o safon uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i drigolion.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu rheolaeth a goruchwyliaeth o ddydd i ddydd o fewn y gwasanaeth, yn cyfrannu at ddatblygu strategaethau, polisïau a gweithdrefnau tai, yn monitro perfformiad ac adroddiadau statudol, ac yn gweithio’n gydweithredol â phartneriaid mewnol ac allanol i gefnogi amcanion tai’r Cyngor ac arwain ar weithredu’r Ddeddf Digartrefedd a Thai Cymdeithasol newydd.
Bydd angen i chi feddu ar ddealltwriaeth gadarn o ddeddfwriaeth tai, swyddogaethau tai strategol, rheoli perfformiad a gweithio mewn partneriaeth, ynghyd â sgiliau cyfathrebu, trefnu ac arwain rhagorol.
Mae’r rôl hon yn cynnig cyfle i wneud cyfraniad cadarnhaol at wasanaethau tai ar draws Ceredigion, gan weithio’n greadigol ac yn gydweithredol i wella canlyniadau i unigolion, teuluoedd a chymunedau.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Cerys Purches-Phillips: Cerys.Purches-Phillips@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.