Mae’r canlynol yn hysbyseb lle mae’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.
Rydym yn chwilio am athro arbenigol ardderchog i addysgu ac arwain yn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol, i gychwyn ar ddechrau Medi 2026 neu ar y dyddiad cynharaf posib ar ôl hynny.
Gwahoddir ceisiadau gan athro arbenigol ymroddgar a brwdfrydig sydd â phrofiad a dealltwriaeth addas.
Bydd yr Athro Arbenigol yn gweithio dan gyfarwyddyd Pennaeth a CADY yr ysgol. Mae’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn darparu ar gyfer disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen sydd ag anghenion lleferydd ac iaith penodol.
Mae’r Ganolfan yn cynnig lleoliad gofalgar gyda mynediad llawn at weithgareddau dysgu sydd wedi’u gwahaniaethu mewn ffordd addas i gwrdd ag anghenion unigol y disgyblion. Mae gan bob disgybl fynediad at raglenni unigol sydd wedi’u teilwra’n arbennig i gwrdd â’i anghenion. Caiff disgyblion eu hintegreiddio i addysg brif ffrwd lle bo’n briodol.
Bydd yr Athro Arbenigol yn gallu rhoi gwersi rhagorol ac mi fydd ganddo/ganddi y gallu i greu perthnasoedd ystyrlon, ac ysbrydoli disgyblion sydd ag anawsterau lleferydd ac iaith penodol.
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Am fwy o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â’r Pennaeth Mr Brian Evans ar 01970 617011/625809
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.