Mae'r ysgol yn cynnig cyfle arbennig i unigolyn trwy raglen bartneriaeth TAR (2 flynedd) a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru drwy darpariaeth y Brifysgol Agored. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu un o’r pynciau sy’n rhan o’r prosiect trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r ysgol wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.
Pynciau sydd yn rhan o’r prosiect yw: Mathemateg, Gwyddoniaeth, Cymraeg, Saesneg, Dylunio a Thechnoleg, Cyfrifiadura / TGCH, Ieithoedd Tramor Modern (Ffrangeg)
Mae'r rhaglen wedi'i hanelu at raddedigion sydd unai’n gweithio ar hyn o bryd ac eisiau newid gyrfa, neu sydd â phrofiad yn y gorffennol o weithio mewn amgylchedd gyda phlant a phobl ifanc. Gall hyn gynnwys cynorthwywyr addysgu a hyfforddwyr dysgu sy'n dymuno symud ymlaen yn eu gyrfa yn ogystal â swyddogion ieuenctid. Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd yn eu blwyddyn olaf yn y brifysgol hefyd.
Mae'r gallu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn angenrheidiol.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am fwy o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â Phennaeth Ysgol Henry Richard, Mr Dorian Pugh, ar pughd22@hwbcymru.net.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.