Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio gyda Thîm Gwaith Ieuenctid Cymunedol ac Atal Ceredigion. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am lunio, datblygu a chydlynu ystod o ddulliau blaengar mewn Gwaith Ieuenctid ac Atal ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed mewn cymuned benodol ac ar hyd a lled Ceredigion.
Bydd y prif ddyletswyddau’n cynnwys:
Bydd gofyn i chi yrru bysiau mini (8-16 sedd). Bydd rhaid i chi fod yn barod i ymgymryd â’r hyfforddiant perthnasol i wneud hyn, ynghyd â dal trwydded yrru lawn y DU am o leiaf 2 flynedd.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
Am unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Gwenllian Morris ar 07974023898 neu gwenllian.morris@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.