Rydym am recriwtio Uwch Swyddog Iechyd yr Amgylchedd i ymuno â'n Tîm Diogelu’r Cyhoedd ar gytundeb parhaol, amser llawn .
Am y rôl
Mae'r rôl hon yn gofyn i'r ymgeisydd fod yn rhan o dîm ymroddedig a phroffesiynol o Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd, a Swyddogion Diogelu'r Cyhoedd sy'n gyfrifol ac yn atebol am orfodaeth, rheoli, datblygu a chynnal safonau Iechyd yr Amgylchedd a Diogelu'r Cyhoedd ledled Ceredigion.
Bydd y rôl hon yn gyfrifol am gyflwyno ystod eang o swyddogaethau Diogelu’r Cyhoedd, gan gynnwys diogelwch a safonau bwyd, diogelu iechyd y cyhoedd, diogelu’r amgylchedd, iechyd a lles anifeiliaid, a gorfodi iechyd a diogelwch. Gan weithredu fel swyddog awdurdodedig y Cyngor, bydd deiliad y swydd yn ymgymryd â dyletswyddau rheoleiddio, ymchwilio a gorfodi er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd, yn ogystal â darparu rheolaeth weithredol ddyddiddydd a goruchwyliaeth ar staff sy’n cyflwyno’r gwasanaethau hyn. O ddydd i ddydd byddwch yn:
Ein hymgeisydd delfrydol
Rydym am recriwtio unigolyn:
Profiad
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus o leiaf 5 mlynedd o brofiad o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gydag o leiaf 2 flynedd o brofiad yn gweithio mewn amgylchedd rheoleiddio, Iechyd yr Amgylchedd neu wasanaeth rheoleiddio tebyg os yn bosib.
Cymraeg
Rydym yn croesawu ceisiadau gan y di-Gymraeg. Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus sydd angen cymorth i ddysgu/gwella eu sgiliau iaith Gymraeg yn cael cynnig gwersi wedi'u hariannu, yn ystod amser gwaith, i helpu i gyrraedd y safon a ddymunir.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Ein cynnig i chi
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu bwrw ymlaen â'ch gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi i weithwyr gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles.
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr yma.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a'r ffordd o fyw mae'n ei chynnig cliciwch yma.
Cysylltwch â ni
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd hon cysylltwch Heddwyn Evans ar publicprotection@ceredigion.gov.uk.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.