Rydym yn buddsoddi yn ein Gwasanaeth Caffael, gan symud i Wasanaeth Rheolwr Categori Caffael ac rydym yn awyddus i recriwtio Rheolwr Categori Caffael i ymuno â'n tîm i cefnogi caffael gwasanaethau corfforaethol a TGaCh.
Mae'n bosibl y bydd y swydd ar gael fel Rheolwr Categori dan Hyfforddai ar gyfer ymgeiswyr heb gymwysterau CIPS.
O ddydd i ddydd, bydd y Rheolwr Categori Caffael:
Mae’r swydd yn allweddol wrth sicrhau y darperir gwasanaeth caffael effeithiol ac effeithlon i’r Cyngor.
Rydym am recriwtio unigolion gyda:
Rydym yn croesawu ceisiadau gan y di-Gymraeg. Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus sydd angen cymorth i ddysgu/gwella eu sgiliau iaith Gymraeg yn cael cynnig gwersi wedi'u hariannu, yn ystod amser gwaith, i helpu i gyrraedd y safon a ddymunir.
Ein cynnig i chi
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu bwrw ymlaen â'ch gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi, gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%, buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles.
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr yma.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Hyfforddai)
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Cysylltwch â ni
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd hon cysylltwch â Jeanette Jones jeanette.jones2@ceredigion.gov.uk neu George Ryley george.ryley2@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.