Rôl yn yr awyr agored sy'n helpu i reoli parcio a diogelu ffyrdd a chymunedau lleol ledled Ceredigion
Ydych chi'n chwilio am rôl amrywiol lle gallwch ymwneud â'r cyhoedd a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau lleol.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a phroffesiynol i ymuno â’r Tîm Gwasanaethau Parcio fel Swyddog Gwasanaethau Parcio. Dyma gyfle cyffrous i gefnogi diogelwch ar y ffyrdd, gwella mynediad i ganol trefi a chyrchfannau twristaidd, a helpu traffig i symud yn rhwydd ar draws y sir.
Mae'r rôl yn amrywiol a byddwch yn gweithio ar draws amrywiaeth o leoliadau ledled Ceredigion. Byddwch yn helpu i sicrhau bod rheoliadau parcio yn cael eu dilyn yn deg ac yn gyson tra'n darparu presenoldeb gweladwy a chadarnhaol yn ein cymunedau.
Ynghylch y rôl
Fel Swyddog Gwasanaethau Parcio, byddwch yn gwneud y canlynol:
Mae hon yn rôl i rywun sy'n mwynhau gweithio yn yr awyr agored, sy'n hyderus yn delio â phobl o bob cefndir, ac sy'n bwyllog, yn deg ac yn broffesiynol wrth ymdrin â sefyllfaoedd heriol.
Yr hyn rydyn ni'n chwilio amdano
Hoffem glywed gennych os ydych:
Mae profiad blaenorol o orfodi rheolau parcio yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol. Rydym yn ymrwymo i ddatblygu gweithwyr a byddwn yn darparu hyfforddiant a chymorth i'ch helpu i lwyddo yn y rôl.
Hyfforddiant a datblygu
Byddwn yn darparu:
Patrwm Gwaith
Mae hon yn swydd barhaol, llawn-amser lle bydd gofyn gweithio 37 awr yr wythnos. Bydd gofyn i chi weithio 5 diwrnod allan o 7, gan gynnwys rhai penwythnosau a gwyliau banc ar sail rota. Bydd yr oriau shifft arferol rhwng 7:30am a 7:00pm.
Gweithio ar y penwythnos
Gan fod y rôl hon yn cynnwys gweithio ar benwythnosau ar sail rota, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hawl i'r tâl canlynol am weithio ar ddydd Sadwrn a dydd Sul:
Gweithio ar wyliau banc
Gan fod y rôl hon yn cynnwys gweithio ar wyliau banc ar sail rota, mae gan yr ymgeisydd llwyddiannus dewis o dderbyn amser dwbl neu amser sengl gyda diwrnod i ffwrdd, yn gyfnewid am weithio ar ŵyl banc.
Pam ymuno â ni?
Mae gweithio i Gyngor Sir Ceredigion yn cynnig cyfle i:
Gwybodaeth ychwanegol
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Mae’r swydd hon yn amodol ar wiriad DBS Safonol.
Am sgwrs anffurfiol ynglŷn â’r rôl, cysylltwch â Gareth Davies, Arweinydd Gwaith y Gwasanaethau Parcio drwy ffonio 01545 570881 neu drwy anfon e-bost i clic@ceredigion.gov.uk.
Ymunwch â ni er mwyn cadw Ceredigion yn ddiogel, yn hwylus ac ar ei hynt.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.