Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Uwch Swyddog Cymorth i’r Gwasanaethau ymuno â'n tîm Cymorth Gwasanaethau Corfforaethol, gan ddarparu cymorth gweinyddol a gweithredol o ansawdd uchel i dîm Asedau'r Cyngor. Mae'r rôl yn allweddol i sicrhau rheolaeth effeithiol o asedau corfforaethol gan ddefnyddio systemau meddalwedd y Cyngor. Byddwch yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn y tîm Asedau, o fewn yr Uned Twf a Menter, gan ymateb yn effeithiol i ymholiadau mewnol ac allanol a sicrhau bod cofnodion sy'n seiliedig ar asedau yn cael eu poblogi, eu diweddaru a'u cynnal yn gywir.
Ynglŷn â'r rôl:
Bydd disgwyl i'r Uwch Swyddog Cymorth Gwasanaeth ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau sy'n gysylltiedig ag amgylchedd swyddfa prysur sy'n cynnwys:
Ynglŷn â'r Ymgeisydd:
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a rhagweithiol, gydag awydd gwirioneddol i gyfrannu at ddarparu gwasanaethau Asedau'r Cyngor yn effeithiol. Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fodloni'r meini prawf canlynol:
Byddai cefndir mewn amgylchedd cyfreithiol neu ystadau yn fantais amlwg ond nid yn hanfodol. Cefnogir dysgu Cymraeg o fewn y Cyngor, gyda chyfleoedd hyfforddi ar gael i gefnogi i gyrraedd y lefelau Cymraeg penodedig.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Ein cynnig:
Credwn fod cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn bwysig iawn. Er mwyn eich cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Gweithio Hybrid: Yn amodol ar amodau penodol yn cael eu bodloni, gallwch ddewis gweithio gartref neu mewn lleoliad swyddfa er y bydd anghenion y rôl yn gofyn am bresenoldeb rheolaidd yn y swyddfa.
Amser hyblyg: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal w/d 1/6/26.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Keith Dale ar keith.dale@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.