Llunio Rhestr-Fer

 Llunio rhestr fer yw cam cyntaf y broses ddethol.

Mae cymryd yr amser i lunio rhestr fer yn drylwyr ac yn systematig yn helpu i sicrhau bod gennych yr ymgeiswyr mwyaf addas i ddewis ohonynt yn y cyfweliad.

Mae llunio rhestr fer yn golygu asesu yn wrthrychol pob cais yn erbyn y meini prawf hanfodol a nodir yn y fanyleb person . Mae’n bwysig peidio â thorri corneli er mwyn arbed amser gan fydd yn debygol na fyddwch yn dethol yr ymgeisydd gorau ar gyfer y swydd.

Y Panel Dethol

Er mwyn sicrhau bod yr ymgeiswyr gorau yn cael eu dewis ar gyfer y rôl, ac i hyrwyddo proses wrthrychol ac anwahaniaethol, dylai’r rhestr fer gael ei lunio gan banel.   Yn ddelfrydol, dylai’r panel llunio rhestr fer a’r panel cyfweld cynnwys yr un aelodau. Lle nad yw hyn yn bosibl, dylai’r panel dethol cynnwys o leiaf un aelod o’r panel cyfweld a pherson priodol arall.

Yn arferol y Rheolwr Recriwtio yw Cadeirydd y Panel. Dylai Cadeirydd y Panel penderfynu ar gyfansoddiad y panel. Er mwyn cydymffurfio ag arfer gorau cyfle cyfartal dylai ‘r panel, lle bo modd, adlewyrchu cymysgedd priodol o ryw ac ethnigrwydd.

Mae hefyd yn bwysig cofio wrth drefnu panel dethol y gall unrhyw ymgeisydd yn unol â’n safonau Cymraeg ddewis cael cyfweliad a / neu ymgymryd ag asesiad trwy gyfrwng y Gymraeg a ni ddylid eu trin yn llai ffafriol nag ymgeisydd sydd yn dewis cael ei gyfweld a / neu gael eu hasesu yn Saesneg. Holir i ymgeiswyr nodi ei dewis iaith yn eu ffurflenni cais. Fel y cyfryw, dylid gwneud pob ymdrech i gael panel dwyieithog i ddarparu ar angen hwn. Mae hyn hefyd yn sicrhau y bydd y panel yn medru asesu sgiliau iaith ymgeiswyr yn y cyfweliad. Os nad ydych yn medru trefnu panel dwyieithog, ac rydych wedi derbyn cais i gynnal y cyfweliad yn yr iaith Gymraeg, rhaid i chi ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

Mae’n hanfodol bod pob aelod o’r panel yn ymwneud â phob cam o’r broses ddethol. Dylai aelodau o’r panel dethol cyfrannu’n gyfartal i’r broses dethol. Fel arall, byddant yn cael eu hystyried fel aelod a statws ymgynghorol yn unig. Dylai pawb sy’n ymwneud a’r broses, asesu’r ffurflenni cais yn annibynnol cyn cyfarfod fel panel i lunio rhestr fer.

Matrics Rhestr Fer

Cyfrifoldeb y Cadeirydd yw cyfansoddi matrics rhestr fer ar gyfer y panel. Unwaith y bydd y rhestr fer yn cael ei gytuno, cyfrifoldeb y Cadeirydd yw sicrhau bod matrics rhestr fer yn cael ei gynhyrchu i gofnodi’r penderfyniad terfynol a wnaed gan y grŵp.

Rhestr Fer

Dylai Rhestr Fer ond yn dechrau pan fydd recriwtio wedi cau.  Er bod ceri | rheolwr pobl caniatáu i chi weld ffurflenni cais yn ystod y cyfnod hysbysebu, ni ddylech geisio dechrau llunio’r rhestr fer tan ar ôl y dyddiad cau.

Os nad yw’r ffurflen gais yn dangos yn glir a yw ymgeisydd yn cwrdd â’r holl feini prawf hanfodol, oherwydd er eu bod wedi darparu gwybodaeth i awgrymu efallai eu bod yn bodloni’r meini prawf, nid yw’r dystiolaeth a nodwyd ganddynt yn ddigon manwl, gellir eu gwahodd i gyfweliad i’ch galluogi i ymchwilio ymhellach.  Dylid gwneud cofnod ar y matrics rhestr fer i esbonio penderfyniad y panel i’w gwahodd.

Hefyd, ni ddylid rhagdybio bod ymgeisydd wedi graddio eu lefelau ALTE yn briodol – dylai hyn gael asesu yn y cyfweliad bob amser.

Os bod nifer fawr o ymgeiswyr yn bodloni’r meini prawf hanfodol, yna gall y meini prawf dymunol gael ei defnyddio i helpu llunio’r rhestr fer. Nid oes angen defnyddio’r meini prawf dymunol os ceir nifer fach o ymgeiswyr.

Dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod rhestrau byr yn gymesur a nifer y swyddi (hy 6 yn rhif rhesymol ar gyfer 1 swydd wag).

Dylai’r broses llunio rhestr fer lle bynnag y bo modd cael ei gwblhau o fewn 10 diwrnod gwaith i’r dyddiad cau.

Cyflogwr Hyderus o Ran Anabledd

NODER: Mae’r Cyngor yn cefnogi’r cynllun “Disability Confident”.  O ganlyniad, dylai unrhyw ymgeisydd sydd o’r farn bod ganddynt anabledd o dan y cynllun ac sy’n bodloni’r holl feini prawf hanfodol cael ei cyfweld, hyd yn oed os oes gwell ymgeiswyr wedi bodloni’r meini prawf ond heb gael eu gwahodd i gyfweliad. Cyfrifoldeb y Cadeirydd i wneud nodyn o unrhyw ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod yn anabl yn eu cais.

Gellir gwneud nodiadau ar y matrics rhestr fer fel cymorth cof. Rhaid i unrhyw nodiadau fod yn briodol ac anfeirniadol gan y gallai’r nodiadau gael eu gweld gan ymgeiswyr yn y dyfodol. Dylai unrhyw anghytundeb at y dewis terfynol cael ei gofnodi mewn nodyn ynghlwm wrth y matrics rhestr fer.

Pan fo’r broses llunio’r rhestr fer wedi ei gwblhau

Pan fydd y rhestr fer wedi ei lunio rhaid i’r Rheolwr Recriwtio (Cadeirydd) ddiweddaru statws pob ymgeisydd ar Ceri drwy ddilyn y ddolen ‘Application Processing’ yn y ffolder ‘Recruitment’ ar y sgrin hafan Ceri Rheolwr Pobl. (Ceir arwyddid ar sut i wneud hyn yn Syflaen Wybodaeth Ceri.)    Ar ôl symud pob ymgeisydd i’r cam sy’n berthnasol iddynt bydd hysbysiad yn cael ei anfon at AD a fydd yna yn rhoi gwybod i’r ymgeiswyr yn unol â hynny.

Cyfweld

Os nad ydych eisoes wedi cadarnhau’r panel dethol ar gyfer cyfweld, rhaid i chi wneud hynny nawr. Dylai’r panel dethol gynnwys o leiaf dau aelod. Yr arfer da a argymhellir yw cael tri neu bum aelod â phrofiad perthnasol. Dylai’r panel gynnwys y person sydd yn debygol o oruchwylio’r ymgeisydd a benodwyd. Er mwyn cydymffurfio ag arfer da cyfle cyfartal dylai ‘r panel, lle bo modd, adlewyrchu cymysgedd priodol o ryw ac ethnigrwydd.

Unwaith y bydd y panel dethol yn cael ei benderfynu dylid cadarnhau’r dyddiad, lleoliad a strwythur y cyfweliad gydag aelodau’r panel dethol ac yna mynd i ceri rheolwr pobl a chlicio’r ddolen ‘create an interview schedule’ a chreu amserlen gyfweld.  Ar wneud hyn bydd AD yn cael eu hysbysu a byddant yn anfon gwahoddiadau i’r ymgeiswyr i fwcio slot cyfweld yn unol â hynny. Pob tro bydd ymgeisydd yn bwcio slot cyfweld neu’n canslo cyfweliad, byddwch yn derbyn hysbysiad e-bost.

Fe’ch atgoffir bod yr holl ddogfennau recriwtio a dethol yn gyfrinachol. Dylai’r matricsau llunio rhestr fer a gwblhawyd yn cael ei gadw gan Gadeirydd y Panel hyd nes bydd y broses ddethol yn gyflawn. Yna dylid ei hanfon at AD ynghyd â’r Taflenni Sgorio Cyfweld a’r Ffurflenni Cais.

Cwestiynau Cyffredin

… Nid oes unrhyw ymgeisydd yn bodloni’r meini prawf hanfodol?

Bydd angen i chi ail-hysbysebu’r swydd. Cysylltwch â swyddog ôl-Adnoddau Dynol i drafod eich opsiynau.

… Mae’r ymgeisydd wedi datgelu euogfarn droseddol?

Cysylltwch â’ch swyddog Adnoddau Dynol i drafod hyn ymhellach.

… Rydych yn perthyn â neu â diddordeb personol mewn ymgeisydd tu allan i’r gwaith neu gysylltiadau proffesiynol?

Cysylltwch â’ch swyddog Adnoddau Dynol i ddatgan eich diddordeb a chael cyngor ar sut i symud ymlaen.

… Mae ymgeisydd sydd heb ei wahodd i gyfweliad yn gofyn am adborth?

Rhowch adborth gan ddefnyddio’r ffurflen gais a’r wybodaeth a’r sylwadau a gofnodwyd ar y Matrics Rhestr Fer.

… Mae ymgeisydd yn gofyn am gael gweld y nodiadau a wnaed yn ystod y cam llunio rhestr fer?

O dan y Ddeddf Diogelu Data 1998 gall unrhyw ymgeisydd wneud cais i weld y nodiadau a wnaed yn ymwneud â’u cais (llunio rhestr fer a’r cam cyfweld). Rhaid ymateb i geisiadau o fewn 40 diwrnod.

Rhaid i chi ymateb i geisiadau am addasiadau. Dyma rai enghreifftiau o’r mathau o bethau efallai y gofynnir i chi eu hystyried:

  • Gwirio hygyrchedd yr adeilad (gan gynnwys derbynfa, ystafelloedd asesu a chyfweld, toiledau, parcio). Efallai y bydd angen gwneud addasiadau i lefel mynedfa’r adeilad, arwyddion, goleuadau a sŵn yn yr ystafell gyfweld, allanfeydd argyfwng, sut rydych yn gosod dodrefn yn yr ystafell cyfweld ac ati
  • Cynnig amser ychwanegol ymgeisydd i gwblhau profion
  • Darparu offer ansafonol ar gyfer cymryd prawf e.e.. dogfennau print bras neu fysellfwrdd arbennig neu fonitor. Am gyfarwyddyd pellach ar ystyried ceisiadau am addasiadau rhesymol, cysylltwch â’ch Swyddog Adnoddau Dynol

Efallai y gofynnir i chi ystyried staff sydd yn y pwll adleoli os nad oes cynnig wedi ei wneud i ymgeisydd hyd yma. Lle mae hyn yn wir, rhaid i chi ystyried y staff hyn cyn ystyried unrhyw ymgeisydd arall.

  • Os ydynt yn cwrdd â’r meini prawf hanfodol, neu byddant ar ôl hyfforddiant rhesymol, rhaid iddynt gael cynnig y swydd dros unrhyw ymgeisydd arall.
  • Os nad ydynt yn bodloni’r meini prawf hanfodol, neu’r mae’r hyfforddiant sydd eu hangen i’w galluogi i fodloni’r meini prawf yn afresymol nid oes rhaid i chi gynnig y swydd iddynt. Cysylltwch â’ch Swyddog Adnoddau Dynol i drafod hyn ymhellach.