Cyfweld

Mae’r cam cyfweld yn elfen orfodol o’r broses ddethol. Cyfweld yw’r broses o ofyn cwestiynau er mwyn casglu tystiolaeth am allu’r ymgeisydd i gyflawni’r rôl. Mae’n galluogi penderfyniad gwybodus i’w wneud ynghylch pwy yw’r person gorau ar gyfer y swydd. Mae hefyd yn gyfle i ymgeiswyr i ddysgu mwy am y swydd a’r Cyngor.

Bydd ystyriaeth ofalus o’r cwestiynau yn eich helpu i sicrhau bod y wybodaeth gywir yn cael ei gasglu er mwyn gwneud penderfyniad gwybodus. Dylech ddefnyddio’r meini prawf rydych wedi’u osod yn y fanyleb y person ar ddechrau’r broses recriwtio fel sail ar gyfer dewis cwestiynau.p>

Egwyddorion dethol

Mae’r broses ddethol, a’r technegau a ddefnyddir, yn amrywio yn ôl y swydd wag sydd angen ei llenwi, ond dylai gydymffurfio â’r safonau canlynol fel mater o arfer da:

  • Dylai pob ymgeisydd cael eu trin â chwrteisi a pharch trwy gydol y broses
  • Dylai pob rhannau o’r broses cael ei gynllunio i werthuso cymhwysedd ac addasrwydd ymgeisydd i gyflawni gofynion swydd, fel y diffinnir gan y fanyleb person.
  • Bydd y broses gyfan yn cael ei strwythuro a’i baratoi’n ofalus, gan gynnwys amserlen, lleoliad, ddewis iaith yr ymgeiswyr ac unrhyw anghenion arbennig ymgeiswyr anabl.
  • Mae’r Cyngor yn gadarn o blaid pobl anabl ac yn cydymffurfio â gofynion y ‘dau dic’.
  • Bydd ymgeiswyr anabl yn cael y cyfle i ymweld â’r gweithle cyn y cyfweliad er mwyn asesu unrhyw broblemau posibl y gall yr amgylchedd gyflwyno, er mwyn galluogi ystyriaeth i ffyrdd o’u goresgyn.
  • Wrth asesu ymgeiswyr ag anableddau, bydd rheolwyr yn ystyried y ddyletswydd a osodir gan y Ddeddf Cydraddoldeb i ystyried yn gadarnhaol unrhyw addasiadau rhesymol a allai fod yn angenrheidiol i’r amgylchedd gwaith ac arferion gwaith.
  • Bydd cofnodion clir a chywir a chynhwysfawr yn cael ei wneud o berfformiad pob ymgeisydd drwy gydol y broses, a’r penderfyniad dewis terfynol. Bydd y cofnodion hyn yn cael eu hanfon ymlaen at Adnoddau Dynol i’w cadw am 12 mis.

Sut i …Paratoi

Dylai’r panel gyfarfod o leiaf unwaith cyn cynnal y cyfweliadau er mwyn cytuno ar y meini prawf o’r fanyleb person rydych yn bwriadu ei asesu yn ystod y broses gyfweld. Bydd hyn yn sicrhau bod eich cwestiynau yn berthnasol. Dylech hefyd gytuno ar gynnwys a strwythur y cyfweliad.

Paratoi’r cwestiynau

Cyn y cyfweliad cynlluniwch yn ofalus y cwestiynau byddwch yn gofyn. Mae’n bwysig bod y cwestiynau yn cynnwys yr holl feysydd ar y fanyleb person, er mwyn asesu a yw’r ymgeisydd yn bodloni pob un o’r meini prawf hanfodol sydd eu hangen ar gyfer y swydd. Wrth ysgrifennu cwestiynau dylech sicrhau eich bod yn gwybod yr ymateb yr ydych yn ei rhagweld, fel y gallwch asesu yn deg os yw’r ymgeiswyr wedi ateb y cwestiwn yn llawn. Byddwch yn barod i ymchwilio’n ymhellach neu ail-eirio cwestiynau yn ôl y gofyn.

Dylid defnyddio cwestiynau agored wrth gyfweld. Cwestiynau sy’n annog yr ymgeisydd i siarad. Mae’r rhain yn dechrau gyda geiriau fel pwy, beth, sydd, ble, pam na sut, gydag ymadroddion fel ‘dwedwch wrthyf am …’ Mae cwestiynau agored yn ddefnyddiol gan eu bod yn gwahodd i fynegi syniadau, safbwyntiau a barn ac yn gallu annog cyfweleion amharod i siarad. Fodd bynnag, maent hefyd yn fwy anodd i ateb, felly efallai y bydd angen amser ar y cyfwelai i feddwl.

Mae cwestiynu ymddygiadol yn dechneg dda i’w defnyddio. Mae hyn yn seiliedig ar y syniad bod y canllaw gorau i berfformiad yn y dyfodol yw ymddygiad yn y gorffennol. Mae’n ceisio enghreifftiau o sut mae unigolyn wedi gweithio o’r blaen er mwyn gweld a byddant yn dangos y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y swydd hon.

Mae’n bwysig nad yw’r cwestiynau yn arweiniol neu’n wahaniaethol. Gwyliwch nad ydych yn holi cwestiynau damcaniaethol gan fod y rhain yn arwain at atebion damcaniaethol. Nid yw’r rhain yn datgelu llawer am brofiad gwirioneddol y cyfwelai. Mae ymgeiswyr sy’n disgrifio’r hyn y byddant ‘efallai’ yn gwneud yn debygol o roi atebion werslyfr yn hytrach na dangos yr hyn y byddent yn ei wneud mewn gwirionedd. Dylech osgoi cwestiynau caeedig sy’n gwahodd atebion ‘ie’ neu ‘na’ yn unig, oni bai defnyddi’r rhain i wirio’r atebion a roddwyd yn flaenorol. Ceisiwch osgoi cwestiynau sy’n awgrymu y bydd yr ymgeisydd yn cael eu trin yn wahanol oherwydd eu hil, rhyw, oedran, anabledd ac ati. Efallai y bydd angen addasu cwestiynau ar gyfer ymgeiswyr anabl.

Cyfweliad – Cyfrifoldebau Cadeirydd y Panel

Cyn y Cyfweliad

  • trefnu’r ystafell a dodrefn mewn fformat addas i’r cyfweliad yr ydych yn ei wneud. Y cynllun delfrydol yw cael bwrdd crwn neu sgwâr gall y panel a’r ymgeisydd yn eistedd o amgylch.
  • sicrhau bod yr holl offer angenrheidiol yn gwbl weithredol
  • os oes ffôn yn yr ystafell – sicrhewch fod galwadau yn mynd i ffôn arall
  • darparu dŵr ar gyfer y panel a’r cyfwelai
  • os yn bosibl sicrhau bod y cyfleai yn wynebu i ffwrdd o unrhyw ffenestri i leihau unrhyw wrthdyniadau
  • cytuno pwy sy’n gofyn pa gwestiynau
  • sicrhau bod aelodau’r panel yn cael taflenni sgorio ac yn ymwybodol y gall unrhyw nodiadau sy’n cael eu gwneud ar y taflenni gael ei gweld gan ymgeiswyr yn y dyfodol

Agor y Cyfweliad

  • croesawu’r ymgeisydd a chyflwyno pawb (enw a swyddogaeth)
  • cyflwyniad byr i’r rôl
  • egluro fformat y cyfweliad a pha mor hir y disgwylir iddo gymryd
  • hysbysu y bydd aelodau’r panel yn cymryd nodiadau

Yn ystod y Cyfweliad

  • dechrau’r cyfweliad gyda chwestiynau llai beichus i helpu’r ymgeisydd ymlacio
  • sicrhau bod yr holl ymgeiswyr yn ateb yr un cwestiynau craidd
  • sicrhau bod yr holl gwestiynau yn gysylltiedig â’r swydd ac ni ofynnir cwestiynau sy’n ymwneud ag amgylchiadau domestig
  • sicrhau bod y cyfweliadau yn cael eu cynnal yn unol â strategaeth cydraddoldeb y Cyngor
  • sicrhau bod copi o’r cymhwyster i ymgeiswyr weithio yn y DU yn cael ei gadw. Cliciwch i gael mynediad i’r canllawiau.. Cliciwch yma.
  • os oes unrhyw gymwysterau neu aelodaeth wedi’u nodi fel rhai gorfodol rhaid gwneud copi o’r dystysgrif / prawf perthnasol

Cau’r Cyfweliad

  • sicrhau bod holl gwestiynau yr ymgeisydd wedi’u ateb
  • cadarnhau cyfnod rhybudd a manylion cyswllt yr ymgeisydd
  • Dywedwch wrthynt sut a phryd y byddant yn cael gwybod am y canlyniad
  • Diolchwch i’r ymgeisydd am eu hamser a’u diddordeb

Ar ôl y Cyfweliad

  • • sicrhau bod cofnod yn cael ei gadw o sut mae pob ymgeisydd wedi ei raddio yn erbyn gofynion y swydd. Dylai’r taflenni sgorio cyfweliad cael ei ddefnyddio i wneud hyn. Mae hyn yn hynod o bwysig gan os bydd ymgeisydd yn teimlo ei bod wedi dioddef gwahaniaethu, y taflenni hyn bydd yn profi bod yr ymgeisydd wedi’i drin yn deg ac wedi’i barnu yn erbyn gofynion clir. Dylai’r nodiadau fod yn ffeithiol ac yn gywir.
  • dychwelyd y taflenni sgorio wedi’i gwblhau’n llawn ynghyd â’r matrics llunio rhestr fer ag unrhyw dogfennaeth recriwtio a dethol eraill sydd gennych i Adnoddau Dynol.

Gwneud cynnig

Unwaith bod y panel wedi gwneud eu penderfyniad, dylai Cadeirydd y panel gwneud cynnig llafar i’r ymgeisydd llwyddiannus. Wrth wneud y cynnig llafar, dylai’r cyfleu’r pwyntiau allweddol canlynol:

  • y raddfa gyflog a’r hicyn bydd yr ymgeisydd yn derbyn
  • Y dyddiad dechrau a’r oriau gwaith / patrwm gwaith
  • Bod y cynnig yn un amodol ar gwblhau gwiriadau cyn cyflogi yn foddhaol
  • pob penodiad yn cael eu gwneud yn amodol ar gyfnod prawf o chwe mis

Dylai Cadeirydd y panel yn cysylltu â’r ymgeiswyr sy’n weddill i roi gwybod iddynt eu bod wedi bod yn aflwyddiannus a rhoi adborth os gofynnir am hynny.

Prosesu’r ymgeiswyr

 Unwaith bod pob ymgeisydd wedi cael gwybod ar lafar ynghylch a ydynt wedi bod yn llwyddiannus neu beidio, rhaid i’r Rheolwr Recriwtio prosesu’r ymgeiswyr ar ceri | rheolwr pobl drwy fynd i’r ardal ‘Recriwtio’ a’r sgrin hafan a dilyn y dolenni yn yr adran cyfweliad.


Dylech anfon yr holl ddogfennaeth sy’n gysylltiedig â’r broses Recriwtio a Dethol i Adnoddau Dynol.