Rheolwr Pobl Ceri

Mae Rheolwr Pobl Ceri yn galluogi’r rheini sydd â chyfrifoldeb rheoli i reoli’r broses recriwtio, cyrchu gwybodaeth am weithwyr, monitro presenoldeb a rheoli ceisiadau am wyliau, digwyddiadau dysgu a hawliadau costau teithio. Fel rheolwr rydych yn gallu gweld manylion y gweithwyr sy’n eistedd o fewn eich tîm.

Mae Rheolwr Pobl Ceri a Hunan Wasanaeth Ceri yn rhyng-ddibynnol. Er enghraifft, mae Hunanwasanaeth Ceri yn galluogi staff i gyflwyno ceisiadau am wyliau blynyddol, absenoldeb arbennig neu hawliadau am gostau teithio. Bydd angen i’r rhai sy’n gyfrifol am reoli, gymeradwyo’r ceisiadau neu’r hawliadau hyn gan ddefnyddio Rheolwr Pobl Ceri.

Gan fod Rheolwr Pobl Ceri yn cadw manylion personol pob gweithiwr o fewn yr Awdurdod mae yn adnodd gwerthfawr iawn i berfformio dyletswyddau rheoli o ddydd i ddydd. Mantais arall yw ei fod yn darparu pob rheolwr gyda mynediad at gyfres o adroddiadau cyfredol a hanesyddol ynghylch eu staff, gan gynnwys, er enghraifft adroddiadau sy’n ymwneud â nifer y staff, gwyliau, absenoldeb salwch a chostau teithio i enwi ond ychydig. Fel rhywun sy’n rheoli eraill bydd angen i chi i gael mynediad at yr adnodd hwn yn rheolaidd ac unwaith rydych yn gyfarwydd ac yn hyderus ag ef bydd yn eich cynorthwyo i fod yn rheolwr effeithiol ac effeithlon.

Ceir canllawiau ar ddefnyddio Rheolwr Pobl Ceri yn y Sylfaen Wybodaeth Rheolwr Pobl Ceri.