Rheoli Salwch

Mae’n rhaid i bob Rheolwr o fewn ysgolion gadw at y Polisi a’r Weithdrefn sy’n ymwneud â Rheoli Absenoldeb Salwch o’r Gwaith.

Mae’r polisi hwn yn sicrhau dull teg, cyson a chefnogol o reoli absenoldebau sy’n digwydd oherwydd salwch ac mae’n mynd ati i greu ac i feithrin diwylliant o bresenoldeb da. Mae cyfrifoldeb ar reolwyr i gymryd camau i ddelio â’r problemau sy’n gysylltiedig ag absenoldeb parhaus sy’n digwydd dro ar ôl tro oherwydd salwch tymor byr. Mae angen iddynt leihau achosion o’r fath. Hefyd dylai’r rheolwyr fod yn sensitif i anghenion y gweithwyr hynny sy’n sâl am gyfnodau hir a’r gweithwyr hynny y mae arnynt afiechydon cronig, ynghyd a’r rhai sydd ag anableddau. Dylai’r rheolwyr wneud eu gorau, cyn belled ag y bo modd, i roi’r help angenrheidiol iddyn nhw. 

Y rheolwyr sy’n gyfrifol am gofnodi pob absenoldeb. Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch chi ynglŷn â chofnodi absenoldebau ar Rheolwr Pobl Ceri cyfeiriwch at Sylfaen Wybodaeth Ceri.

Dogfennau Defnyddiol

Polisi Absenoldeb oherwydd Salwch

Trefn Hysbysu Salwch ar gyfer Staff Ysgolion

Ffurflen Hunan Ardystio Absenoldeb ar Sail Salwch (SC1)

Cyfarfod Adolygu Absenoldeb – Ffurflen Gofnodi