Iechyd Da Ceredigion

Mae Iechyd Da Ceredigion yn ceisio gwella iechyd a lles holl staff Cyngor Sir Ceredigion. Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ennill Safon Arian ar gyfer Iechyd Corfforaethol sef y marc ansawdd cenedlaethol ar gyfer iechyd a lles yn y gweithle. Mae’r Cyngor am wella iechyd a lles y staff, ac yn hynny o beth yr ydym yn benderfynol o gynnal a gwella’r safon honno. Beth yw ystyr Iechyd Da i chi? Y nod yw:
<ul>
<li>bydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynglŷn â materion sy’n ymwneud ag iechyd a lles</li>
<li>sicrhau bod gwybodaeth gywir a chyfredol ar gael i chi ar amrywiaeth o faterion megis: alcohol, ysmygu, sgrinio iechyd, rhoddi gwaed ac ymarfer corff</li>
<li>cynnal diwrnodau iechyd a diogelwch, pigiadau rhag y ffliw a sesiynau tylino mewn dillad yn y gweithle.</li>
</ul>
Cewch ragor o wybodaeth am Iechyd Da yn ogystal â manylion cynrychiolwyr Iechyd Da ar y <a style=”font-family: Lato, sans-serif; font-size: 16px; line-height: 24px;” href=”http://cardinet.ceredigion.gov.uk/index.cfm?articleid=21425″ target=”_blank”>Fewnrwyd</a>.