Talebau Gofal Plant

Talebau Gofal Plant

Mae ein cynllun Talebau Gofal Plant Fideliti bellach wedi cau i ymgeiswyr newydd. Fe’i disodlwyd gan gynllun llywodraeth newydd o’r enw ‘Tax-Free Childcare’.

Bydd aelodau presennol o’n cynllun Talebau Gofal Plant Fideliti yn parhau ar y cynllun oni bai eich bod yn dewis newid i ‘Tax-Free Childcare’. Byddwch yn parhau i dderbyn talebau gofal plant cyhyd â bod y cynllun yn rhedeg ac rydych chi’n cael eich cyflogi gan Gyngor Sir Ceredigion.

P’un a ydych chi’n ystyried ymuno neu newid i ‘Tax-Free Childcare’, dylech ystyried y ‘better off calculator‘ ar wefan y llywodraeth i weld yr opsiynau gofal plant sydd ar gael i chi.

Fideliti

www.fideliti.co.uk
enquiries@fideliti.co.uk
0800 288 8727

‘Cynnig Gofal Plant’

O 1 Medi 2018, dewiswyd Cyngor Sir Ceredigion i ymuno â’r cynllun peilot ar gyfer gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer blant 3 a 4 oed o rieni sy’n gweithio. Mae ‘Cynnig Gofal Plant’ yn agored i unrhyw deulu sy’n byw yng Ngheredigion ar yr amod eu bod yn bodloni’r meini prawf cymhwyster.

Y ‘Cynnig Gofal Plant’ yw hyd at 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi’i ariannu i rieni sy’n gymwys ac yn gweithio ac sydd â phlant 3 a 4 oed am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Ni allwch chi ddefnyddio’r oriau a ariennir gan ‘Cynnig Gofal Plant’ tra’n hawlio talebau gofal plant. Gellir defnyddio talebau ar gyfer unrhyw oriau gofal plant ychwanegol sydd gennych yn uwch na’r ‘Cynnig Gofal Plant’.

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am y cynllun ‘Cynnig Gofal Plant’.