Ceredigion Actif

Mae Ceredigion Actif yn falch o gynnig pris gostyngol corfforaethol ar gyfer pecynnau aelodaeth canolfannau hamdden i holl aelodau staff Cyngor Sir Ceredigion, gan ddechrau o £ 18.95 y mis.

Mae’r aelodaeth yn caniatáu mynediad i holl Ganolfannau Hamdden a Phyllau Nofio Cyngor Sir Ceredigion sydd oll yn gynnig amrywiaeth o weithgareddau a chyfleusterau ar gyfer pob oed. Mae’r Canolfannau Hamdden wedi’u lleoli yn: Pwll Nofio Aberaeron, Aberteifi, Llanbedr Pont Steffan, Aberystwyth- Plascrug a Thregaron.

Mae’r gweithgareddau’n cynnwys nofio anghyfyngedig, dosbarthiadau ffitrwydd a defnydd o’r ystafell ffitrwydd. Mae’r dosbarthiadau ffitrwydd yn cynnwys Circuits, Spin, HIIT, Aqua Aerobics,  Aerobics Cam, Boxercise a Metafit.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i http://www.ceredigionactif.org.uk/membership.html