Benthyciadau Car

Mae benthyciadau ar gael i’r gweithwyr canlynol brynu ceir:

  • Defnyddwyr ceir sy’n teithio 1,000 o filltiroedd neu fwy bob blwyddyn yn rhinwedd eu gwaith
  • Pobl sydd wedi gorfod symud i le gwaith gwahanol yn y pedair blynedd diwethaf oherwydd ailstrwythuro mewnol, lle mae disgwyl y bydd rhaid iddynt deithio 1,000 o filltiroedd neu fwy yn ychwanegol

Mae’n rhaid bod y cerbyd a brynir wedi’i gofrestru yn enw’r ymgeisydd, a bod yr ymgeisydd yn ei ddefnyddio wrth ei (g)waith gyda’r Cyngor.

Rhaid cynnwys anfoneb y modurdy neu’r gwerthwr preifat gyda’r ffurflen gais am fenthyciad car, yn dwyn enw a chyfeiriad y gwerthwr, enw a chyfeiriad y prynwr a manylion llawn y cerbyd, gan gynnwys y gwneuthurwr a’r model, maint yr injan (cc), y dyddiad cofrestru gwreiddiol, rhif cofrestru, rhif y siasi a’r pris y cytunwyd ei werthu amdano (dylid cynnwys gwerth unrhyw gerbyd a gyfnewidiwyd fel rhan o’r pris). Ni all swm y benthyciad fod yn fwy na gwerth y cerbyd a brynwyd.

Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a Chaffael Cyngor Sir Ceredigion sy’n gyfrifol am bennu’r gyfradd llog ar gyfer benthyciadau, a chaiff yr arian ei dalu’n ôl drwy ei dynnu’n uniongyrchol o’ch cyflog bob mis. Bydd unrhyw Swyddog sy’n prynu car drwy ddefnyddio benthyciad yn ymrwymo i gadw’r car at ei (d)defnydd swyddogol eu hun a sicrhau y caiff y cerbyd ei gynnal a’i gadw’n briodol, a bod Polisi Yswiriant Cynhwysfawr ar ei gyfer, sy’n cynnwys defnydd gwaith. Mae’n rhaid cael caniatâd y Cyngor i werthu’r car a phrynu un newydd yn ei le cyn talu’r benthyciad yn ôl, ac mae’n rhaid bod y car newydd yn werth mwy na’r cerbyd a brynwyd yn wreiddiol.

Codir premiwm yswiriant i indemnio’r benthyciadau a roddir. Bydd yr yswiriant yn talu’r benthyciad yn ôl os bydd y gweithwyr yn marw heb dalu’r benthyciad yn ôl yn llawn. Gellir cael manylion y premiwm ymlaen llaw os oes angen.

Cyfyngiadau

Cyfyngir ar swm unrhyw fenthyciad yn unol â’r meini prawf canlynol:

  • Bod yr ad-daliadau’n cynnwys llog o 9% a’r premiwm yswiriant mewnol.
  • Mae’n rhaid i weithwyr gyfrannu £1,000 tuag at bris y cerbyd. Bydd gwerth unrhyw gerbyd a gaiff ei gyfnewid yn rhan o’r pryniant yn cyfrif tuag at y cyfraniad hwn.
  • Ni chaiff gweithwyr fenthyciad sy’n para’n hwy na’r cyfnod sydd ar ôl ar eu contractau.
  • Uchafswm y benthyciad fydd £10,000 neu 50% o gyflog blynyddol y gweithiwr, er enghraifft os bydd gweithiwr yn ennill £8,000 y flwyddyn ni roddir benthyciad mwy na £4,000 (50% of £8,000).

Benthyciadau Cyfredol

Ni all swm unrhyw fenthyciad newydd fod yn fwy na phris y cerbyd a brynwyd (ac eithrio cyfraniad y gweithiwr o £1000) wedi tynnu’r swm sydd ar ôl i’w dalu ar y benthyciad cyfredol.

Sut i gael Benthyciad

Os oes arnoch angen mwy o wybodaeth mae croeso ichi gysylltu â’r Gwasanaethau Ariannol ar (01970) 633111 & (01545) 572194 (estyniad 3111/2194).

Ar ôl ichi ddewis y cerbyd y byddwch yn ei brynu â benthyciad y Cyngor, mae’n rhaid llanw’r ffurflen gais a’i hanfon i’r Adain Gyfrifyddu, Y Gwasanaethau Ariannol, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth SY23 3UE. Mae’n rhaid cynnwys anfoneb y gwerthwr gyda’r ffurflen.

Bydd taliad yn cael ei wneud gyda sieciau neu BACS ar ddydd Iau a dydd Llun YN UNIG. Bydd sieciau’n daladwy i’r ymgeisydd oni wneir cais fel arall. Mae’n rhaid cyflwyno’r ffurflen gais a’r dogfennau angenrheidiol i’r Adain Gyfrifyddu erbyn 11.00 a.m. dri diwrnod gwaith CYN y bydd angen y benthyciad.

Pan fydd eich cais yn cael ei dderbyn, bydd gofyn ichi lofnodi cytundeb benthyciad car i gadarnhau eich bod yn derbyn amodau a thelerau’r benthyciad. Bydd y Gwasanaethau Ariannol yn rhoi’r cytundeb ichi.

 

Cyfrifio Benthyciad

Ad-daliadau Bob Mis
Swm Benthyciad 12 Mis 24 Mis 36 Mis
£ 1,000 £ 88.28 £ 46.51 £ 32.63
£ 2,000 £176.57 £ 93.04 £ 65.27
£ 3,000 £264.85 £139.55 £ 97.90
£ 4,000 £353.14 £186.07 £130.53
£ 5,000 £441.43 £232.59 £163.17
£ 6,000 £529.71 £279.11 £195.80
£ 7,000 £617.99 £325.62 £228.43
£ 8,000 £706.28 £372.15 £261.07
£ 9,000 £794.56 £418.66 £293.70
£10,000 £882.84 £465.18 £326.33

Dogfennau

Ffurflen Gais Benthyciad Car

Cytundeb Benthyciad Car