Sut i weld ac ychwanegu cynnydd at amcanion
Mae’r erthygl hon yn dangos sut i weld ac ychwanegu cynnydd at eich amcanion ar system Hunan-wasanaeth Ceri.
Nodyn: Gallwch weld amcanion ac ychwanegu cynnydd iddynt trwy gydol y flwyddyn, hynny yw y tu allan i’r broses arfarnu.
Gweld amcanion
- Ewch i’r dudalen Amcanion ac Arfarnu
- Yn yr adran Amcanion, cliciwch ar enw’r amcan perthnasol
- Dangosir manylion yr amcan
- Nodyn: dim ond rheolwyr all ddiweddaru dyddiadau cychwyn a chwblhau’r amcan, yn ogystal â canlyniad yr amcan
Ychwanegu manylion cynnydd at amcanion
Gallwch ychwanegu cynnydd amcan lluosog i bob amcan. Gall gweithwyr a rheolwyr ychwanegu cynnydd at amcanion.
- Yn yr adran Amcanion, cliciwch ar y botwm cynnydd glas ar yr amcan perthnasol
- Bydd unrhyw eitemau cynnydd blaenorol yn cael eu ddangos
- I ychwanegu eitem cynnydd newydd, cliciwch ‘Ychwanegu manylion cynnydd amcan’
- Cwblhewch y meysydd gofynnol
- Cliciwch Cyflwyno i ychwanegu’r cynnydd