Y Polisi Disgyblu
Mae’r Cyngor Sir yn cydnabod bod disgyblaeth yn angenrheidiol er mwyn gweithredu’n effeithlon ac er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch pob un o’r staff yn y gwaith.
Er mwyn sicrhau bod gweithdrefn deg ac effeithiol yn bod ar gyfer ymdrin â materion disgyblu, caiff y weithdrefn sydd yn y polisi hwn ei defnyddio, heblaw am roi rhybudd anffurfiol am ryw weithred o gamymddygiad cymharol ddi-nod.