Y Polisi Diogelu Data a Chanllaw i’r Staff
Pan fo’r Cyngor yn casglu unrhyw ddata mae’n rhaid cydymffurfio â gofynion Deddf Diogelu Data 1998 a phob deddfwriaeth berthnasol arall boed ar ffurf papur, cyfrwng cyfrifiadurol, y ffôn neu unrhyw ddull, cyfrwng neu ddefnydd arall. Mae’n rhaid delio â gwybodaeth bersonol yn gywir, yn briodol, gyda pharch, yn gyfreithlon ac yn ddiogel er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio’n llawn â Deddf Diogelu Data 1998 a phob deddfwriaeth gysylltiedig arall.
Mae’n bwysig sicrhau bod y staff, yr Aelodau, yr asiantiaid sy’n gweithredu ar ran y Cyngor, y partner sefydliadau ac eraill, yn trin pob gwybodaeth bersonol yn gyfreithlon ac yn briodol, er mwyn cynnal ymddiriedaeth defnyddwyr y gwasanaethau, y dinasyddion a defnyddwyr eraill y sector cyhoeddus a phreifat eraill.
Ceir mynediad i’r polisi hwn ar CardiNet y wefan mewnrwyd gorfforaethol.