Y Cytundeb Statws Sengl
Cytundeb ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ceredigion a’r Undebau Llafur cydnabyddedig sef UNSAIN, GMA, UNITE ac UCATT yw hwn. Mae’n gysylltiedig â gweithredu canlyniadau cynllun gwerthuso swyddi’r Cyngor ac mae’n cynnwys y strwythur tâl a graddio newydd. Mae’r cydgytundeb yn berthnasol i holl staff Cyngor Sir Ceredigion a gyflogir o dan delerau ac amodau’r Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol (y Llyfr Gwyrdd) a’r Cyd-bwyllgor Trafod ar gyfer Crefftwyr a Gweithwyr Cysylltiedig yr Awdurdod Lleol (y “Llyfr Coch”). O dan amodau cyflogaeth y Cyngor mae telerau ac amodau unrhyw gydgytundeb lleol a drafodir rhwng y Cyngor a’r Undebau Llafur cydnabyddedig yn cael eu cynnwys yn awtomatig yng nghontractau cyflogaeth pob gweithiwr sydd o dan y cytundeb hwnnw. Mae’r telerau sydd yn y cytundeb hwn wedi disodli’r trefniadau tâl a graddio blaenorol ar gyfer gweithwyr o’r fath a gafodd eu cyflogi ar NJC ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol neu JNC ar gyfer Crefftwyr a Gweithwyr Cysylltiedig yr Awdurdod Lleol. Ni fydd y cydgytundeb yn diddymu hawl yr unigolyn i gyflwyno cais am dâl cyfartal. Dyw rhai grwpiau o staff ddim wedi’u cynnwys yn benodol yn y cytundeb hwn
- Prif Weithredwr
- Cyfarwyddwyr Strategol
- Penaethiaid y Gwasanaethau
- Y rhai staff a gyflogir o dan Amodau Soulbury
- Yr Athrawon