Y Cod Ymddygiad
Mae staff y Cyngor yn gwasanaethu’r Awdurdod cyfan, maent yn atebol i’r Cyngor ac mae dyletswydd arnynt i’r Cyngor. Mae’n rhaid iddynt weithredu’n unol â’r egwyddorion a nodir yn y ‘Gorchymyn Cod Ymddygiad (Gweithwyr Llywodraeth Leol Cymwys) (Cymru) 2001′ sy’n cydnabod dyletswydd pob un o weithwyr y sector cyhoeddus i gyflawni swyddogaethau cyhoeddus mewn modd rhesymol ac yn unol â’r gyfraith.
Mae’r Cod Ymddygiad yn amlinellu’r safonau sylfaenol y dylai gweithwyr gadw atynt a bydd yn rhan o’u Contract Cyflogaeth. Nod y Cod yw gosod canllawiau ar gyfer y staff a fydd yn helpu cynnal a gwella safonau a hefyd eu diogelu rhag camddealltwriaeth a beirniadaeth. Petaech chi’n torri’r Cod gellid cymryd camau disgyblu yn eich erbyn.