Polisi Tywydd Garw ac/neu Amharu ar y Gwasanaeth
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i holl staff Cyngor Sir Ceredigion (heblaw am y staff addysgu / cymorth yn yr ysgolion lle mai’r Corff Llywodraethu sy’n gosod y telerau ac amodau cyflogaeth lleol iddynt). Mae’r polisi hwn yn cwmpasu’r canlynol:
- os yw’r staff yn methu â dod i’r gwaith oherwydd tywydd garw neu drafferthion gyda thrafnidiaeth gyhoeddus
- os bydd y staff yn hwyr yn cyrraedd y gwaith oherwydd tywydd garw neu drafferthion gyda thrafnidiaeth gyhoeddus
- os bydd y staff yn gadael y gwaith yn gynnar oherwydd tywydd garw neu drafferthion gyda thrafnidiaeth gyhoeddus
- os nad yw’r staff yn gallu dod i’r gwaith neu mae’n rhaid iddynt adael yn gynnar oherwydd cyfrifoldebau gofal yn ystod cyfnodau o dywydd garw neu drafferthion gyda thrafnidiaeth gyhoeddus
- os caiff y staff eu hanfon adref am resymau sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch