Polisi Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
Cafodd Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ei phasio ar 30 Tachwedd 2000. Mae’r Ddeddf yn rhoi’r hawl gyffredinol i’r cyhoedd weld i bob math o wybodaeth ‘gofnodedig’ a ddelir gan awdurdodau cyhoeddus, gyda rhai eithriadau, ac mae’n gosod rhwymedigaeth ar awdurdodau cyhoeddus. Nod yr eithriadau yw diogelu cyfrinachedd a gwybodaeth arall lle gallai datgelu fod yn andwyol i fuddiannau’r Wladwriaeth neu drydydd parti.
Mae’r datganiad polisi hwn yn disgrifio’r trefniadau y mae Cyngor Sir Ceredigion wedi’u gwneud i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r Ddeddf a pholisi’r Cyngor yw cydymffurfio â gofynion statudol y Ddeddf yn llawn.
Ceir mynediad i’r polisi hwn ar CardiNet y wefan mewnrwyd gorfforaethol.