Materion Cyflogaeth Cyffredinol

Adolygu Perfformiad


Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cydnabod yr angen i wella ei wasanaethau a’i weithrediad mewnol yn barhaus. Un o’r elfennau pwysicaf yn hynny o beth yw gwneud y defnydd gorau o’r staff, eu sgiliau a’u potensial. Er mwyn sicrhau hynny, disgwylir i bob aelod o’r staff gymryd rhan mewn Adolygiad Perfformiad blynyddol. Dylai’r adolygiad perfformiad fod yn gyfle i chi drafod gyda’ch rheolwr chi ynghylch perfformiad eich swydd, eich dyfodol, a dylid anelu at ddealltwriaeth gliriach o’r canlynol:

  • Prif gwmpas a phwrpas eich swydd.
  • Cytundeb ynghylch eich amcanion a’ch tasgau.
  • Safonau neu dargedau ar gyfer mesur eich perfformiad.
  • Eich anghenion chi o ran hyfforddiant a’ch datblygiad at y dyfodol.

Cewch fwy o fanylion ynglŷn ag Adolygu Perfformiad yn y dogfennau canlynol:

  • Polisi Rheoli Perfformiad
  • Rheoli Perfformiad – Canllaw i Weithwyr

Cliciwch yma i gael mynediad iddynt.

Gwasanaeth di-dor


Os oes gennych chi wasanaeth di-dor gyda sefydliad neu gorff o dan y Gorchymyn Taliadau Diswyddo (Diwygio) (sy’n cynnwys awdurdodau lleol a chyrff cyffelyb) neu Gytundeb Trosglwyddo TUPE bydd hynny’n cael ei gydnabod wrth gyfrifo eich hawl chi i’r canlynol:

  • Gwyliau blynyddol
  • Tâl salwch
  • Absenoldeb mamolaeth neu dadolaeth
  • Tâl diswyddo
  • Cyfnod rhybudd
  • Pensiynau

Caiff gwasanaeth blaenorol gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ei gynnwys wrth gyfrifo eich hawl chi i’r canlynol:

  • Gwyliau blynyddol
  • Tâl salwch
  • Absenoldeb mamolaeth neu dadolaeth
  • Cyfnod rhybudd
  • Pensiynau (yn amodol at drosglwyddo i mewn)

Undebau Llafur


Mae’r Cyngor o blaid cydfargeinio ac mae’n annog datblygu cysylltiadau gyda’r gweithwyr trwy ymgynghori, trafod a chytundeb. Yn ymarferol, mae’n rhaid gwneud hynny gyda chynrychiolwyr y gweithwyr a’r staff. Mae’r Cyngor yn parchu eich hawl chi i ymuno ag undeb llafur o’ch dewis chi.
Mae’r Cyngor yn cydnabod yr Undebau Llafur canlynol at ddibenion cydfargeinio:

  • UNSAIN
  • GMB
  • UNITE
  • UCATT