Ysmygu
Pam ddylwn i roi’r gorau i ysmygu?
Byddwch chi’n byw’n hirach, yn teimlo’n well ac yn cael mwy o arian i’w wario ar bethau a gweithgareddau rydych chi’n hoffi eu gwneud, fel gwyliau. Byddwch hefyd yn amddiffyn pobl o’ch cwmpas sy’n anadlu eich mwg.
Os ydych chi’n ysmygu, rhoi’r gorau iddi yw’r un cam pwysicaf y gallwch ei gymryd i ddiogelu eich iechyd.