Iechyd Meddwl a Lles
Mae problemau iechyd meddwl yn gyffredin. Mae ymchwil yn awgrymu y bydd un o bob pedwar ohonom yn wynebu problemau iechyd meddwl o fewn un flwyddyn. Mae iechyd meddwl yn cynnwys ein llesiant emosiynol, seicolegol a chymdeithasol. Mae’n effeithio ar y ffordd yr ydym yn meddwl, teimlo a gweithredu. Mae hefyd yn cyfrannu at ein ffordd o ymdrin â straen, y modd y byddwn yn ymwneud ag eraill a hefyd yn dylanwadu ar ein penderfyniadau. Mae iechyd meddwl, yn yr un modd ag iechyd corfforol, yn rhywbeth sydd yn gyffredin i bob un ohonom ac yn rhywbeth y dylai pob un ohonom fod yn ofalus ohono.
O ble alla i gael cymorth?
Os ydych yn teimlo y byddech yn elwa o gymorth ychwanegol gyda’ch iechyd meddwl, mae llawer o sefydliadau allanol a all eich helpu. Gellir dod o hyd i wybodaeth amdanynt isod:
Yn ychwanegol at hyn, mae gennym rwydwaith o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl sy’n bwynt cyswllt os ydych chi neu rywun yr ydych yn pryderu yn ei gylch yn wynebu problem iechyd meddwl neu drallod emosiynol.
Nid yw’r swyddogion hyn yn therapyddion nac yn seiciatryddion ond gallant roi cymorth cychwynnol i chi a’ch arwyddbostio at gymorth priodol os oes angen. Gallwch gysylltu â yma.
Ar gyfer Rheolwyr Corfforaethol, mae pecyn cymorth ar gael sy’n cynnwys fframwaith i’ch arwain wrth i chi hyrwyddo llesiant y rhai yr ydych yn eu rheoli.
Hyfforddiant
Mae dwy sesiwn hyfforddi ar gael i staff. Dilynwch y ddolen ganlynol i Cerinet er mwyn cadw lle ar y sesiynau hyfforddi:
Dyma dri ar ddeg o’r podlediadau gorau o ran iechyd meddwl. Gall gwrando ar bodlediad eich helpu i ddod o hyd i gymorth ac i gael y syniad o gymuned, p’un ai ydych chi eich hun yn stryffaglu gyda’ch iechyd meddwl neu os ydych yn ceisio cynorthwyo rhywun mewn sefyllfa o’r fath.
CALM – cymorth myfyrdod ac ymlacio i hybu hyder a lleihau straen a phryder.
Headspace – yn darparu cwrs sylfaenol i fyfyrdod ac ymwybyddiaeth ofalgar.
SilverCloud – cwrs ar-lein i’ch helpu chi i reoli straen, pryder ac iselder.
Fideos Lles
CALM Sianel YouTube – myfyrdod, ymwybyddiaeth ofalgar, dosbarthiadau meistr a llawer mwy.
MIND Sianel YouTube – fideos ar ystod o bynciau gan yr elusen iechyd meddwl, MIND.
Headspace ar YouTube – myfyrdod dan arweiniad
Grief and Bereavement
Losing someone can be one of the most difficult and painful times in life. There is support available to help you through the grieving process.
Loneliness
Loneliness has become known as a ‘silent epidemic’.
If we’re lonely we can have feelings of sadness, emptiness or distress about being by ourselves and disconnected from the world around us. There is, however, a difference between unwanted social isolation (loneliness) and social isolation, because some of us choose to be alone, yet don’t feel lonely.
Cymorth Cysylltiedig â Gwaith
Cymorth iechyd meddwl cyfrinachol ac am ddim ar gyfer staff gofal cymdeithasol.
Elusen sydd wedi ei chysegru i gefnogi iechyd meddwl a llesiant athrawon a staff ym myd addysg.