Awgrymiadau ar gyfer y Cyfnod Clo

Gofalu am eich Lles Meddyliol: Awgrymiadau a Ffynonellau Gwybodaeth a Chyngor ar gyfer y Cyfnod Clo  

Mae’r Coronafeirws yn parhau i darfu ar fywyd mewn ffyrdd na fyddem wedi gallu eu dychmygu cyn iddo ddod yn rhan o’n bywydau y llynedd.    

Mae’n gwneud yr elfennau sylfaenol o fywyd yn llawer mwy anodd.   Mae’n naturiol i fod yn bryderus a gofidus, ond gall y straen parhaus effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol.    

Mae’r un mor bwysig i ofalu am ein hiechyd meddwl ag ydyw i ofalu am ein hiechyd corfforol.    

Gallwn gymryd camau syml i wneud hyn drosom ni ein hunain a thros eraill.   Dyma rai awgrymiadau ymarferol ar sut i ofalu am eich iechyd meddwl ar yr adeg hon.   

  • Cadwch mewn cysylltiad – siaradwch â phobl.  Hyd yn oed os na allwn gwrdd wyneb yn wyneb, gallwn gysyllu ar-lein yn rhithiol neu dros y ffôn.   
  • Sefydlwch drefn – beth bynnag ry’n ni’n arfer ei wneud, mae’r cyfnod clo wedi chwalu ein trefn.   Ceisiwch gynnal trefn fel bod rhyw fath o strwythur a phwrpas i’ch bywyd.   
  • Cadwch yn iach – mae cadw’n iach nid yn unig yn rhoi hwb i’ch corff, mae’n bwysig i’ch meddwl hefyd.   Ceisiwch fwyta’n iach ac osgoi cysur-fwyta.  Yfwch ddigonedd o ddŵr, ond cadwch lygad ar faint o gaffein ac alcohol rydych chi’n ei gael.   
  • Gwnewch amser i chi eich hunan  p’un ai a yw’n amser i ddarllen mewn cornel dawel, i gael bath neu i fyfyrio am rai munudau, mae’n bwysig ymlacio.     
  • Byddwch yn rhan o’ch cymuned  pun ai a yw’n godi llaw ar gymydog, yn gadw golwg ar ffrind hŷn neu’n helpu rhywun i siopa, gall gweithredoedd bychain o garedigrwydd helpu eraill a gwneud ni deimlo’n well.     
Os yw pethau’n anodd i chi ar hyn o bryd a bod arnoch angen rhywun i siarad ag ef, mae cymorth ar gael:   

Y Samariaid:  Ffoniwch am ddim ar 116 123 neu, er mwyn siarad â rhywun yn Gymraeg, ffoniwch 0808 164 0123, 7pm-11pm bob dydd, neu e-bostiwch  jo@samaritans.org neu ewch i www.samaritans.org     Samaritans yng Nghymru | Samaritans  

Am gymorth mewn argyfwng trwy decst cyfrinachol 24/7tecstiwch “SHOUT” ar 85258 neu ewch i www.giveusashout.org 

MIND: ffoniwch 0300 123 3393 neu ewch i www.mind.org.uk  /  Mind Cymru | Mind 

Am gymorth mewn argyfwng i bobl ifanc (o dan 35 oed) ffoniwch Hopeline UK ar wefan Papyrus sydd ar agor yn ystod yr wythnos o 9am tan 10pm ac ar benwythnosau o 2pm tan 10pm.  Y rhif yw 0800 068 41 41, neu decstwch 07786 209697, neu ewch i www.papyrus-uk.org  

Mae CALM: the Campaign Against Living Miserably, ar gyfer pobl yn y DU sy’n teimlo’n isel neu sydd wedi bwrw’r wal am ryw reswm.   Ffoniwch 0800 58 58 58 (bob dydd o 5pm tan hanner nos) neu ewch i wefan CALM: www.thecalmzone.net i ddefnyddio’r gwasanaeth anhysbys am ddim a ddarperir ganddynt gael sgwrs ar y we â staff a hyfforddwyd. 

Mae gan y mudiad hefyd becyn cymorth ar iechyd meddwl sy’n cynnwys cyfres o bodlediadau gan bobl enwog yn siarad am eu profiadau nhw o broblemau iechyd meddwl.    

Cam-drin Domestig: Byw Heb Ofn Byw Heb Ofn | LLYW.CYMRU 

Llinell Gymorth 0808 80 10 800 ar gyfer pobl sy’n profi cam-drin domestig.   Gall Byw Heb Ofn gynnig cymorth a chyngor trwy decst, e-bost, ffôn a sgwrs fyw i:  

  • unrhyw un sy’n profi cam-drin domestig 
  • unrhyw un sy’n adnabod rhywun y mae angen help arnynt. Er enghraifft, ffrind, aelod o’r teulu, cydweithiwr neu ymarferwyr sy’n chwilio am gyngor proffesiynol.   

Mae pob sgwrs gyda Byw Heb Ofn yn gyfrinachol, gyda staff profiadol iawn sydd wedi derbyn hyfforddiant llawn.   

Gwefannau ac Apiau

Mae llyfrgell apiau y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn rhoi dolenni i apiau a all fod yn ddefnyddiol o ran nifer o gyflyrau iechyd, gan gynnwys nifer o apiau iechyd meddwl a lles: 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio ymgyrch i gynorthwyo i ofalu am iechyd a lles yn ystod y pandemig:    

IAWN: Gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda 

Yn rhoi awgrymiadau ar hunangymorthmae gwybodaeth am wasanaethau yn y gymuned leol a gwasanaethau ar-lein ar gael hefyd.   

My Possible Self –  gwefan ac ap i wella iechyd meddwl a lles pobl sy’n byw gyda straen a gorbryder a’r rhai sy’n isel eu hysbryd: www.good-thinking.uk/resources/ my-possible-self/  

Yoga with Adriene  Ioga am ddim ar-lein ar gyfer pob gallu a chyflwr  www.youtube.com/user/yogawithadriene  

Mae’r prosiect The Free Mindfulness yn rhoi dolenni i nifer o fideos ac adnoddau am ymwybyddiaeth ofalgar wedi’u teilwra ar gyfer Covid-19 www.freemindfulness.org/covid19 

Mae Self-compassion.org yn safle sy’n cynnig ymarferion corff am ddim a myfyrdodau dan arweiniad i’ch helpu i fod yn garedig i’ch hunan www.self-compassion.org/category/exercises/ 

Mae gan Tiny Buddha 45 awgrym am y camau bach y gallwch chi eu cymryd i ofalu am eich hunan: ewch i https://tinybuddha.com/  a chwiliwch am ‘45 simple self-care practices. 

 Arian a Chyllid  

Mae gan Money Saving Expert ganllawiau ar bob agwedd ar sut y gall Covid effeithio ar eich cyllid ynghyd ag awgrymiadau gwych ar sut i gynilo arian: www.moneysavingexpert.com 

Mae gan Mental Health and Money Advice gyngor wedi’i deilwra aarian a iechyd meddwl yn ystod y pandemig: www.mentalhealthandmoneyadvice.org.  Os yw pethau ychydig yn fwy difrifol, mae Step Change yn helpu pobl â phroblemau dyled i ail-hawlio rheolaeth ar eu cyllid a’u bywydau.   Am gyngor am ddim, ewch i www.stepchange.org neu ffoniwch 0800 138 111 Llun-Gwener 8am-6pm.