Absenoldeb a Thâl Rhiant a Rennir

Mae Absenoldeb Rhiant a Rennir yn hawl newydd sydd yn cynnig mwy o hyblygrwydd i rieni fedru rhannu gofal eu plentyn yn ystod y flwyddyn gyntaf yn dilyn yr enedigaeth neu’r mabwysiadu. Bydd mamau, tadau, partneriaid a mabwysiadwyr cymwys yn gallu rhannu pot o absenoldebau a byddant yn gallu penderfynu cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith yr un pryd a/neu ddewis cymryd cyfnodau i ffwrdd o’r gwaith yn eu tro i ofalu am y plentyn.
Er mwyn hawlio Absenoldeb â Thâl Rhiant a Rennir , bydd angen i’r fam fod yn gymwys i dderbyn absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu, neu dâl mamolaeth neu fabwysiadu statudol ac mae’n rhaid iddi rannu’r prif gyfrifoldeb am ofalu am y plentyn gyda thad y plentyn neu’i phartner hi. Ar ben hynny, bydd yn rhaid dilyn proses ag iddi ddau gam er mwyn dangos ei bod yn gymwys.

  • Cam 1 – Prawf Parhad: Mae’n rhaid i riant sy’n dymuno cymryd Absenoldeb Rhiant a Rennir fod wedi gweithio i’r cyflogwr am o leiaf 26 wythnos ar ddiwedd y 15fed wythnos cyn yr wythnos yr oedd disgwyl i’r plentyn gyrraedd (neu’r wythnos yr hysbyswyd y mabwysiadwr ei fod wedi ei baru â phlentyn) ac mae’n dal i fod yn gyflogedig yn wythnos gyntaf yr Absenoldeb Rhiant a Rennir. Mae’n rhaid i’r rhiant arall fod wedi gweithio am 26 wythnos o fewn y 66 wythnos sy’n arwain at y dyddiad y disgwylir geni’r plentyn a’i fod wedi ennill mwy na throthwy’r lwfans mamolaeth o £30 yr wythnos mewn 13 o’r 66 wythnos.
  • Cam 2 – Cymhwysedd unigol am dâl: Er mwyn bod yn gymwys i gael Tâl Rhiant a Rennir, mae’n rhaid i’r rhiant, yn ogystal â phasio’r Prawf Parhad, hefyd fod wedi ennill cyflog cyfartalog ar y terfyn enillion isaf neu’n uwch am yr 8 wythnos cyn y 15fed wythnos cyn yr wythnos y disgwylir geni’r plentyn. Mater i’r fam neu’r mabwysiadwr yw penderfynu p’un a yw am aros ar absenoldeb mamolaeth neu ddewis cymryd Absenoldeb Rhiant a Rennir.

Gellid cymryd Absenoldeb Rhiant a Rennir ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar ddyddiad geni’r plentyn neu ddyddiad y lleoliad, a bydd yn diweddu 52 wythnos ar ôl y dyddiad hwnnw. Mae’n rhaid cymryd yr absenoldeb mewn wythnosau cyflawn a gellir ei gymryd naill ai fel cyfnod di-dor, yr hwn na all cyflogwr mo’i wrthod, neu fel cyfnod toredig, yr hwn y gall cyflogwr ei wrthod.

I hysbysu eich Rheolwr Llinell o’ch bwriad i gymryd Absenoldeb Rhieni a Rennir llenwch y ffurflen Rhybudd o’r Hawl a’r Bwriad i Gymryd Absenoldeb Rhieni a Rennir.