Absenoldeb a Thâl Tadolaeth

Caiff pob darpar dad a phartneriaid menywod beichiog amser i ffwrdd o’r gwaith heb dâl i fynd i ddau apwyntiad cyn geni gyda’r fam feichiog. Mae’r Cyngor yn rhoi hyd at un wythnos o absenoldeb â thâl i dad y plentyn neu’r partner neu ofalwr enwebedig mam sy’n disgwyl baban o’r diwrnod geni ac o fewn cyfnod o 56 diwrnod ar ôl hynny. Y gofalwr enwebedig yw’r sawl sydd wedi’i enwebu gan y fam i gynorthwyo i ofalu am y plentyn a darparu gofal i’r fam tuag adeg yr enedigaeth. Bydd hawl gan y gweithwyr hynny sy’n bodloni’r meini prawf statudol i ail wythnos o absenoldeb olynol (Absenoldeb Tadolaeth Cyffredin) a delir ar y gyfradd statudol. Mae rhagor o fanylion ynghylch Absenoldeb Tadolaeth yn y Polisi Cydbwysedd Rhwng Bywyd a Gwaith. Fodd bynnag, hyderwn y bydd y manylion isod yn ateb unrhyw gwestiynau cyffredinol sydd gennych chi ynghylch eich hawl i amser i ffwrdd o’r gwaith a thâl. Gweler isod y wybodaeth yr ydym yn gobeithio fydd yn ateb unrhyw gwestiynau cyffredinol sydd gennych ynghylch eich hawl i gael amser o’r gwaith a thâl.

Y broses hysbysu a hawliau

tadolaeth

Llinell Amser Tal

Cwestiynau Cyffredin

QuestionsPryd dylwn i roi gwybod i’m rheolwr llinell fy mod yn bwriadu cymryd absenoldeb tadolaeth?

Mae’n ofynnol i chi roi gwybod i’ch Rheolwr Llinell o’ch bwriad i gymryd absenoldeb tadolaeth o leiaf 15 wythnos cyn y dyddiad y disgwylir yr enedigaeth (neu yn achos mabwysiadu yn y Deyrnas Unedig, 7 diwrnod cyn i chi gael eich paru â phlentyn neu o fewn 28 diwrnod o dderbyn hysbysiad swyddogol, os ydych yn mabwysiadu o dramor). Dylech wneud hynny drwy gyflwyno Ffurflen Gais Absenoldeb Tadolaeth ynghyd â chopi o’r dystysgrif MAT B1 (a roddir fel arfer gan eich Bydwraig).

Pryd gaf i ddechrau fy absenoldeb tadolaeth?

Gallwch ddewis dechrau eich absenoldeb tadolaeth arferol:

  • ar ddiwrnod genedigaeth y babi (boed hyn yn gynharach neu’n hwyrach na’r disgwyl) neu os ydych yn mabwysiadu, ar ddyddiad y mabwysiadu;
  • o blith nifer o ddiwrnodau neu wythnosau a ddewisir (ond o fewn 56 diwrnod) ar ôl dyddiad geni / dyddiad mabwysiadu’r plentyn. Rhaid cwblhau’r Absenoldeb Tadolaeth Arferol o fewn 56 diwrnod o ddiwrnod yr enedigaeth (neu os ydych yn mabwysiadu, o fewn 56 diwrnod o ddyddiad lleoliad y plentyn); neu
  • os caiff eich plentyn ei eni’n gynharach na’r disgwyl, rhwng yr enedigaeth a 56 diwrnod o’r diwrnod yr oeddech yn disgwyl yr enedigaeth.

A gaf i ddechrau ar fy absenoldeb tadolaeth cyn i’r baban gael ei eni?

Ni chewch ddechrau ar eich absenoldeb tadolaeth tan enedigaeth y babi. Serch hynny, gall gweithwyr gymryd rhywfaint o wyliau blynyddol cyn hynny.

Beth fydd yn digwydd petawn i am newid y dyddiad yr wyf am ddechrau fy absenoldeb tadolaeth?

Gallwch newid y dyddiad yr ydych chi’n dymuno i’ch absenoldeb tadolaeth arferol ddechrau drwy roi o leiaf 28 diwrnod o rybudd. Gallwch newid y dyddiad yr ydych yn dymuno i’ch absenoldeb tadolaeth ychwanegol ddechrau neu ganslo’r absenoldeb drwy roi o leiaf 6 wythnos o rybudd.

Pryd fydd fy nhâl tadolaeth yn dechrau?

Bydd y tâl tadolaeth yn dechrau pan fyddwch yn dechrau ar eich absenoldeb tadolaeth.

Faint o dâl tadolaeth fyddaf yn ei gael?

Cewch y tâl tadolaeth statudol yn unol â’r gyfradd a osodwyd gan y Llywodraeth am y flwyddyn dreth berthnasol neu ar gyfradd sy’n cyfateb i 90% o’ch enillion wythnosol ar gyfartaledd os ydyw’n llai na’r gyfradd safonol am hyd at bythefnos. Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn cynyddu’r Tâl Tadolaeth Statudol arferol gan gynnig eich cyflog llawn am wythnos gyntaf yr absenoldeb tadolaeth arferol.

A oes hawl gennyf i gymryd amser o’r gwaith i fynd i apwyntiadau cyn geni gyda fy mhartner?

Mae gan tadau a phartneriaid yr hawl i gymryd amser di-dâl o’r gwaith i fynd i hyd at 2 apwyntiad cyn geni.   Yn yr amgylchiadau lle hoffech fynd i mwy na 2 apwyntiad, dylech drafod y posibilrwydd o gymryd gwyliau blynyddol neu weithio’n hyblyg gyda’ch rheolwr llinell.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn colli fy ngwaith cyn dechrau cael fy Nhâl Tadolaeth Statudol?

Os byddwch yn colli eich swydd neu’n rhoi’r gorau i’ch gwaith cyn yr wythnos gymhwyso (y 15fed wythnos cyn geni’r baban / 7 diwrnod cyn i chi gael eich paru â phlentyn) ni fydd gennych yr hawl i gael tâl tadolaeth statudol. Os byddwch chi’n colli eich gwaith neu’n rhoi’r gorau i’ch gwaith ar ôl yr wythnos gymhwyso, bydd dal gennych hawl i gael Tâl Tadolaeth Statudol.

Faint o Dâl Tadolaeth Statudol fyddaf yn ei gael os bydd fy mhartner yn rhoi genedigaeth i fwy nag un plentyn?

Mae hawl gennych i un Taliad Tadolaeth Statudol yn unig, ni waeth faint bynnag o blant a gaiff eu geni. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd hawl gennych i Fudd-dal Plant ar gyfer pob plentyn. Cysylltwch â’r Asiantaeth Fudd-daliadau’n lleol am fwy o fanylion.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn sâl ar ddiwedd fy absenoldeb tadolaeth?

Bydd arnoch angen tystysgrif salwch gan y meddyg. Bydd y cofnodion wedyn yn dangos eich bod wedi dychwelyd o absenoldeb tadolaeth a’ch bod yn awr ar absenoldeb oherwydd salwch a bydd angen i chi ddilyn gweithdrefnau arferol y gwasanaeth ar gyfer rhoi gwybod eich bod yn absennol oherwydd salwch.

Byddwch yn colli’r Tâl Tadolaeth Statudol am yr wythnos gyflawn honno.

A gaf i ddychwelyd yn rhan amser neu rannu swydd?

Petaech chi’n dymuno gwneud cais i weithio’n hyblyg ar ôl absenoldeb tadolaeth / mabwysiadu, byddai angen i chi wneud hynny’n unol â Pholisi Cydbwysedd rhwng Bywyd a Gwaith yr Awdurdod.

A gaf i fynd yn ôl ar absenoldeb tadolaeth ar ôl dychwelyd i’r gwaith os yw’n dal i fod o fewn y cyfnod absenoldeb tadolaeth?

Na chewch.

A fydd hawl gennyf o hyd i Wyliau Blynyddol a Gwyliau Banc?

Bydd eich hawl chi i Wyliau Blynyddol a Gwyliau Banc yn dal i gronni trwy gydol cyfnod yr absenoldeb tadolaeth, boed hynny â thâl neu’n ddi-dâl. Gallai fod yn fuddiol i chi a’ch rheolwr llinell pe baech chi’n cymryd gwyliau blynyddol cyn cyfnod ffurfiol yr absenoldeb mamolaeth (gyda thâl ac yn ddi-dâl) neu ar ôl hynny. Bydd yn rhaid trafod a chytuno ar faint o wyliau a gymerir yn y modd hwnnw gyda’r rheolwr a fydd yn gorfod ystyried anghenion y gwasanaeth.

A effeithir ar fy nghyfraniadau pensiwn?

Yn ystod absenoldeb tadolaeth â thâl, bydd yr Awdurdod yn parhau i wneud cyfraniadau pensiwn megis petaech chi’n gweithio ac yn ennill eich cyflog arferol. Yn ystod yr absenoldeb tadolaeth di-dâl, bydd eich hawliau pensiwn galwedigaethol yn dal i gronni. Os ydych chi eisoes yn gwneud cyfraniadau at Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a’ch bod yn penderfynu cymryd opsiwn absenoldeb tadolaeth di-dâl, bydd yn ofynnol i chi dalu’r cyfraniadau cronedig dros gyfnod yr absenoldeb tadolaeth di-dâl. Caiff y cyfraniadau cronedig eu cymryd o’ch cyflog dros gyfnod o amser pan fyddwch chi’n dychwelyd i’ch gwaith.