Absenoldeb a Thâl Mabwysiadu

Mae cynllun mabwysiadu’r Cyngor yn seiliedig ar egwyddorion y cynllun mamolaeth. Rydych yn gymwys i gael absenoldeb mabwysiadu ar yr amod eich bod yn bodloni’r meini prawf a osodir gan y cynllun.

Cyfeiriwch at y Polisi Cydbwysedd Rhwng Bywyd a Gwaith am wybodaeth manwl.

Gweler isod y wybodaeth yr ydym yn gobeithio fydd yn ateb unrhyw gwestiynau cyffredinol sydd gennych ynghylch eich hawl i gael amser o’r gwaith a thâl.

Proses Hysbysu

mabwysiadu1

Hawl

mabwysiadu2

Cwestiynau Cyffredin

Questions

Pryd ddylwn i roi gwybod i’m rheolwr llinell fy mod wedi fy mharu â phlentyn?

Mae’n ofynnol i chi roi gwybod i’r Adain Adnoddau Dynol Corfforaethol o’ch bwriad i gymryd absenoldeb mabwysiadu cyn pen saith diwrnod ar ôl y dyddiad y cawsoch wybod eich bod wedi eich paru â phlentyn neu os ydych yn mabwysiadu o dramor, dylech roi gwybod o fewn 28 diwrnod o gael hysbysiad swyddogol. Dylech gadarnhau eich bod yn bwriadu cymryd absenoldeb mabwysiadu drwy lanw Ffurflen Hysbysu ynghylch Mabwysiadu a’i chyflwyno i’r adain Adnoddau Dynol Corfforaethol ynghyd â’ch tystysgrif paru neu hysbysiad swyddogol.

Pryd gaf i ddechrau ar fy absenoldeb mabwysiadu?

14 diwrnod cyn dyddiad y lleoliad (y dyddiad y bydd y plentyn yn dechrau byw gyda chi) yw’r cynharaf y gallwch chi ddechrau ar eich absenoldeb mabwysiadu. Os ydych yn mabwysiadu o dramor – gallwch ddechrau ar yr absenoldeb mabwysiadu pan fydd y plentyn yn cyrraedd y Deyrnas Unedig neu o fewn 28 diwrnod o’r dyddiad hwn.

Pryd fydd fy nhâl mabwysiadu yn dechrau?

14 diwrnod cyn dyddiad y lleoliad yw’r cynharaf y gall tâl mabwysiadu ddechrau. Bydd y tâl mabwysiadu yn dechrau pan fyddwch yn dechrau ar eich absenoldeb mabwysiadu.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn colli fy swydd cyn dechrau fy Nhâl Mabwysiadu Statudol?

Os byddwch yn colli eich swydd neu’n rhoi’r gorau i’ch gwaith cyn yr wythnos gymhwyso (y 15fed wythnos cyn geni’r baban) ni fydd gennych yr hawl i gael Tâl Mabwysiadu Statudol. Os byddwch chi’n colli eich gwaith neu’n rhoi’r gorau i’ch gwaith ar ôl yr wythnos gymhwyso, bydd dal gennych yr hawl i gael Tâl Mabwysiadu Statudol.

Faint o rybudd sydd angen imi ei roi i’m cyflogwr os byddaf yn dychwelyd i’r gwaith cyn diwedd fy absenoldeb mabwysiadu?

Os byddwch yn dymuno dychwelyd i’r gwaith cyn diwedd yr absenoldeb mabwysiadu a gytunwyd, bydd angen i chi roi 21 diwrnod o rybudd i’ch rheolwr llinell yn ei hysbysu o’r dyddiad newydd y byddwch chi’n dychwelyd i’r gwaith. Anogir gweithwyr i drafod y dyddiad y byddant yn dychwelyd i’r gwaith gyda’u rheolwr llinell cyn gynted ag y bo modd, fel y gellid rhoi trefniadau addas ar waith. Os ydych chi’n bwriadu dychwelyd i’r gwaith ar ddiwedd eich hawl i gael absenoldeb mabwysiadu llawn, ni fydd yn ofynnol i chi ein hysbysu ymhellach am hynny.

Faint o Dâl Mabwysiadu Statudol fyddaf yn ei gael os byddaf yn mabwysiadu mwy nag un plentyn?

Nid oes ond gennych yr hawl i gael un Taliad Mabwysiadu Statudol faint bynnag o blant sy’n cael eu mabwysiadu yn ystod yr un cyfnod.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn sâl ar ddiwedd fy absenoldeb mabwysiadu?

Bydd angen i chi gael tystysgrif salwch oddi wrth eich doctor. Bydd y cofnodion wedyn yn dangos eich bod wedi dychwelyd o absenoldeb mabwysiadu a’ch bod yn awr ar absenoldeb salwch ac y bydd angen i chi ddilyn y gweithdrefnau adrannol arferol ar gyfer adrodd eich bod yn absenoldeb oherwydd salwch.

A fedraf ddychwelyd yn rhan amser neu rannu swydd?

Pe byddech yn dymuno gwneud cais am drefniant ar gyfer gweithio’n hyblyg ar ôl yr absenoldeb mabwysiadu, byddai angen i chi wneud hynny yn unol â Pholisi Cydbwysedd rhwng Bywyd a Gwaith yr Awdurdod.

A fedraf fynd yn ôl ar absenoldeb mabwysiadu ar ôl dychwelyd i’r gwaith os ydyw’n dal i fod o fewn y cyfnod absenoldeb mabwysiadu?

Ni chewch wneud hyn.

A fydd dal hawl gennyf gael Gwyliau Blynyddol a Gwyliau Banc?

Cronnir yr hawl i wyliau blynyddol a Gwyliau Banc yn ystod holl gyfnod yr absenoldeb mabwysiadu, boed â thâl neu’n ddi-dâl. Gallai fod yn fuddiol i chi a’ch rheolwr llinell pe byddech chi’n cymryd gwyliau blynyddol cyn a/neu ar ôl cyfnod ffurfiol yr absenoldeb mabwysiadu (am dâl ac yn ddi-dâl). Rhaid trafod a chytuno ar gyfanswm y gwyliau a gymerir fel hyn gyda’r rheolwr a fydd yn gorfod ystyried ymrwymiadau’r gwasanaeth.