Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi sicrhau ei fod yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaeth y Llywodraeth a chanllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac wedi gwneud mwy na hynny. Mae’r cyngor yn ddiolchgar i’w gyflogeion am wneud eu gorau i gydymffurfio â gweithdrefnau rheoli ac atal yr haint, adrodd am absenoldeb salwch, cadw at weithdrefnau profi, tracio ac olrhain a gwisgo Cyfarpar Diogelu Personol. Fodd bynnag, nid nawr yw’r amser i fynd yn hunanfodlon. Mae angen i ni sicrhau ein bod yn parhau i wneud y ‘pethau iawn’ sy’n cynnwys parhau i warchod ein hunain, ein cydweithwyr ac aelodau o’r cyhoedd y gallwn ddod i gysylltiad â nhw.
Mae gennym ni, fel cyflogeion Llywodraeth Leol, gyfrifoldeb i arwain drwy esiampl a dangos ein hymrwymiad i ddiogelwch y cyhoedd a chyflogeion drwy gydymffurfio â’r rheolau a’r rheoliadau a bennwyd i warchod pawb, ac y mae disgwyl i ni fel awdurdod eu gorfodi.