Ffioedd Rhenti Ffôn – Ymatebion

Crynodeb

Derbyniwyd yr ymatebion canlynol:

Nifer yr ymatebion
Ymatebion a oedd yn cytuno â’r cynnig 1
Ymatebion nad oedd yn cytuno â’r cynnig 4
Cyfanswm 5

Ymatebion

Er mwyn bod yn gwbl agored a thryloyw, mae’r ymatebion a dderbyniwyd wedi eu crynhoi/grwpio lle bo hynny’n bosibl.   Mae’n bosibl, felly, bod yr ymateb a nodir yn y tabl isod wedi ei aralleirio.

Ymateb Ateb
Yn cytuno

Rwy’n cytuno â’r hawl arfaethedig newydd ac yn ei chefnogi

Mae’r sylw’n cael ei werthfawrogi ac mae wedi ei nodi.
Costau gweithio gartref

Hoffwn gynnig bod pob aelod o staff sy’n gweithio gartref yn cael taliad am y costau ychwanegol a ddaw yn sgil gweithio gartref yn barhaol e.e. trydan.

Mae gweithwyr yn gallu hawlio rhyddhad treth o £6 yr wythnos yn uniongyrchol o Dollau a Chyllid Ei Mawrhydi am unrhyw gostau ychwanegol i’r cartref oherwydd ei bod yn ofynnol iddynt weithio gartref.
Derbyniad gwael

Nid oes derbyniad ffôn symudol yn fy nhŷ/Nid yw’r derbyniad ffôn symudol yn ddibynadwy yn fy nhŷ, felly mae’n rhaid i mi gael ffôn llinell dir er mwyn gwneud a derbyn galwadau at ddibenion gwaith.

Os yw’r derbyniad ffôn symudol yn annibynadwy yn eu cartref, ni fydd y gweithwyr hynny yn gallu gweithio gartref oni bai eu bod yn sicrhau dulliau cyfathrebu amgen.
Effeithlonrwydd Cost

Dim ond i nifer cymharol isel mae’r mater hwn yn berthnasol, a thybed faint o arian fydd y Cyngor yn ei arbed drwy weithredu hyn?  Ar y llaw arall, faint o niwed fyddai’n cael ei achosi gan hwn, gydag effaith negyddol ar ymddiriedaeth/tegwch rhwng y cyflogwr a’r gweithiwr?  Tybed a yw’n werth gwneud hyn?

Cynnig yr ymgynghoriad yw dileu unrhyw anghysondeb o ran hawliau i lwfansau ar draws y gweithlu.

Penderfyniad

Gweithredu’r cynnig a bydd y newid yn dod i rym o 1 Ebrill 2021 ymlaen.