Croeso

Croeso i borth gwybodaeth Adnoddau Dynol Cyngor Sir Ceredigion. Yma fe gewch arweiniad ar amrywiol faterion sy’n ymwneud â gweithio i’r Cyngor. Mae yma wybodaeth i ‘Staff Newydd’ i’w helpu nhw ymgartrefu yn eu rolau a’u cymunedau newydd. Yn ogystal mae adran ‘Llawlyfr y Staff’ yn rhoi gwybodaeth fanwl ynglŷn â pholisïau a gweithdrefnau’r Cyngor fel y byddwch yn gwybod beth i’w ddisgwyl gennym ni fel eich cyflogwr a’r hyn a ddisgwylir gennych chi yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. Mae ‘Pecyn Cymorth i Reolwyr’ hefyd i gynorthwyo Rheolwyr gydag Adnoddau Dynol.

© Cyngor Sir Ceredigion 2024